Cyfrol gain sy'n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a nifer o batrymau Celtaidd o lawysgrifau canoloesol, wedi eu haddasu gan Martin Crampin. Llyfr anrheg i unrhyw un sydd am bori ym myd y chwedlau.

- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,

Twyllodrus fyddai meddwl am y gyfrol hon fel casgliad yn yr ystyr gonfensiynol; mae ôl curadu arni, ac mae’n fwy bwriadol o lawer na phentwr o destunau a wthiwyd rhwng dau glawr ar sail thema gyffredin yn unig. Ond mae yna thema, wrth gwrs, sef chwedlau. Gellid dadlau yn ddiddiwedd am ffiniau chwedl, hanes, myth, a stori, ond llwydda’r gyfrol hon i fwrw’r rhwyd yn eang heb golli ei min.

Ceir straeon cyfarwydd y Mabinogi; ceir chwedlau mwy lleol fel Gwrach Cors Fochno; a cheir yr elfennau hynny o’n hanes sydd wedi codi uwchlaw ffaith ac ymgorffori rhyw ddyhead a delfryd mwy, megis lladd Llywelyn Ein Llyw Olaf; ond ceir hefyd ffigyrau ein llên gwerin a darodd dant ym meddwl gwlad megis Twm Siôn Cati, a hefyd ffigyrau megis Santes Dwynwen sy’n troedio ffin amwys rhwng seiliau hanesyddol a’r dychymyg.

Cerddi ar y cyfan yw’r arlwy, ond mae hefyd ddetholiadau rhyddiaith (aralleiriadau o hen destunau’r Mabinogi, er enghraifft), a hefyd ddetholiad o’r ddrama ‘Blodeuwedd’ gan Saunders Lewis. Mae hyn yn sicrhau bod rhythm y casgliad yn amrywio ac yn dolennu, yn hytrach na llifo’n syth at yr aber, fel petai: mae’r detholiadau hŷn yn ymddangos blith draphlith â’r deunydd cyfoes neu weddol gyfoes (sef y mwyafrif o’r cynnwys), ac mae’r cyfosodiadau hyn yn creu ei sylwebaeth ei hun. Mae’r gwahanol oesoedd a chyfnodau yn ymddiddan â’i gilydd rhwng y cloriau, os mynnwch chi, ac yn eplesu ar y cyd, yn ymblethu’n haenau amser.

Mae yma ystod eithaf eang o awduron: ochr yn ochr â rhai o enwau mawr yr ugeinfed ganrif megis R. Williams Parry, a lleisiau hŷn y sîn farddol megis Alan Llwyd, gwelwn gerddi gan Marged Tudur, Aneirin Karadog, Mererid Hopwood ac Eurig Salisbury, ymysg eraill.

Ac o ran y cerddi, mae yna gydbwysedd rhwng cerddi rhydd a cherddi caeth. O fod wedi darllen trwyddynt oll cefais fy atgoffa o ba mor ddwfn yw ein chwedloniaeth – yn ei holl ystyron – a chymaint o danwydd sydd ynddi o hyd i’r dychymyg. Ond cododd pwynt diddorol iawn hefyd ynghylch chwedl a’r cof: beth rydym yn ei gofio neu ei goffáu, a sut rydym yn gwneud hynny? Nid yr un fath fydd chwedloniaeth pawb; ond rhaid hefyd ymgadw rhag troi hanesion anodd yn chwedlau pellennig yn unig. Megis y dywedir gan Jim Parc Nest yn ‘Culhwch a’i Olwen’: ‘Ein tasg ninnau ... troi eu chwedlau’n hanes’.

- Morgan Owen @ www.gwales.com,

An elegant volume comprising ancient and brand new poems - all inspired by legends from Wales. Ymateb ein beirdd i'n chwedlau sydd yn y gyfrol hon: detholiad o gerddi hen a newydd wedi eu casglu ynghyd mewn cyfrol hardd, o gerddi am Y Mabinogi a'r Brenin Arthur i gerddi am chwedl Culhwch ac Olwen a Chantre'r Gwaelod. Ceir cerddi newydd sbon hefyd gan Jim Parc Nest, Annes Glynn, Myrddin ap Dafydd, Haf Llewelyn, Gwenallt Llwyd Ifan, Anwen Pierce ac Alan Llwyd.
Les mer
An elegant volume comprising ancient and brand new poems - all inspired by legends from Wales. Ymateb ein beirdd i'n chwedlau sydd yn y gyfrol hon: detholiad o gerddi hen a newydd wedi eu casglu ynghyd mewn cyfrol hardd, o gerddi am Y Mabinogi a'r Brenin Arthur i gerddi am chwedl Culhwch ac Olwen a Chantre'r Gwaelod. Ceir cerddi newydd sbon hefyd gan Jim Parc Nest, Annes Glynn, Myrddin ap Dafydd, Haf Llewelyn, Gwenallt Llwyd Ifan, Anwen...
Les mer
Chwedl - Tîm Glannau Llyfni Mabinogi - Gwynn ap Gwilym Drysau (detholiad) - Twm Morys 'Gwed Stori'r Adar Majic!' - Manon Rhys Cwm Cuch - Iwan Llwyd Taith dros y Preselau - Idris Reynolds Y Mabinogi - Annes Glynn Y Cyfarwydd - Alan Llwyd Ynys ag Aeliau - Aneirin Karadog Dadeni (detholiad) - Dafydd Rowlands Llais Efnisien - Cen Williams Ynys (detholiad) - Gwyneth Lewis Branwen - Sian Northey Aderyn - Tîm Crannog Y Llais - Cen Williams Afon Alaw - Mari George Bedd Branwen - Marged Tudur Blodeuwedd - Alan Llwyd Tylluan - Robat Powell Araith Gronw Pebr - Saunders Lewis Y Nos yng Nghaer Arianrhod - Caryl Parry Jones Araith Seithenyn - R. Williams Parry Mererid - Hywel Griffiths Clychau Cantre'r Gwaelod - J. J. Williams Cantre'r Gwaelod - R. Williams Parry Pengwern - Myrddin ap Dafydd Y Dref Wen - Tecwyn Ifan Eryr Eli - Anhysbys Pwy Oedd Chwiorydd Heledd? - Elin ap Hywel Olwen - Tomi Evans Culhwch a'i Olwen - Jim Parc Nest Troedio'n Ysgafn - Haf Llewelyn Gwyn ap Nudd - Elfed Ymadawiad Arthur (detholiad) - T. Gwynn Jones Afallon - T. Arfon Williams Draig Wen, Draig Goch - Myrddin ap Dafydd Y Pethau Bychain - Eurig Salisbury Hud yn Nyfed (Aros Mae) - Christine James I Ddewi Sant (detholiad) - Ieuan ap Rhydderch Drws Gobaith - Mererid Hopwood Dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant - Mari George Baled Ynys Llanddwyn - Christine James Galw ar Ddwynwen (detholiad) - Dafydd ap Gwilym Ar Ddydd Santes Dwynwen - Menna Elfyn Penllyn - Alan Llwyd Pair Ceridwen - Annes Glynn Gwrach Cors Fochno - Anwen Pierce Cynnig Bara - Aneirin Karadog Drych - Gwenallt Llwyd Ifan Rhys a Meinir - Gruffudd Antur Llongau Madog - Ceiriog Twm Siôn Cati - Ceri Wyn Jones Cilmeri - Gerallt Lloyd Owen Tân Llywelyn - Dic Jones
Les mer
Mae Mari George yn fardd, yn awdures ac yn gyfieithydd sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Produktdetaljer

ISBN
9781911584339
Publisert
2020-03-03
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
200 mm
Bredde
200 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
104

Redaktør
Illustratør