Cyfrol newydd yn cyfleu camau plentyndod

Gyda’i glawr caled, dyluniad hardd, a’i gynnwys teimladwy, mae’r llyfr diweddaraf gan wasg Barddas yn cael ei ddisgrifio fel ‘y llyfr anrheg perffaith’.

Casgliad arbennig o gerddi am blant a phlentyndod ydi Wyneb y Bore Bach sydd wedi ei olygu gan lenor a mam i bedwar ei hun, Haf Llewelyn o Lanuwchllyn.

O glasuron fel ‘Bach ydi Baban’ gan Gwyn Thomas ac awdl ‘Gwythiennau’ Myrddin ap Dafydd i gerddi gan Sian Northey, Mari George ac Aneirin Karadog, mae’r gyfrol yn gyfuniad o’r hen a’r newydd.

Rhan o gwpled o’r gerdd ‘Toriad Dydd’ gan John Hywyn yw’r teitl -

Na! Ni welais anwylach
Nag wyneb y bore bach…

Profiad cyffredin i nifer o rieni newydd, ond, meddai Haf: “Roeddwn i eisiau iddo fod yn fwy na llyfr i rhywun sy’n cael babi. Cofnod o gyfnodau mewn plentyndod, mewn barddoniaeth ydi o, cerddi yn dilyn bywyd plentyn o‘r funud mae’n cael ei greu i’r adeg mae’n gadael y nyth.

“Rydw i yn 50 oed rŵan ac wedi bod trwy’r cyfnodau gwahanol hefo ‘mhlant, eu babandod hyd at orfod gollwng gafael pan maen nhw yn gadael cartre’. Ond nid dim ond cerddi am blant o safbwynt mam ydi’r casgliad. Mae plant wrth gwrs yr un mor bwysig i deidiau, neiniau a thadau ac mae’r cerddi yn adlewyrchu hynny.

“Mae yma gerddi gan ddynion a merched, hen ac ifanc, cyfoes a hen gerddi.”

Mae Wyneb y Bore Bach, a ddyluniwyd gan Olwen Fowler, wedi ei rannu yn bum rhan, o dan deitlau sy’n dyfynnu’r cerddi eu hunain. ‘Ynof fi, mi wn ei fod’, ‘Bach ydi baban’, ‘Maint fy myd oedd hyd y ddôl’, ‘Heno hed heb edrych nôl’ ac ‘Am mai rhan o’m rhieni’.

Mae’r gwahanol rannau’n crisialu’r caleidosgop lliwgar o emosiynau ynghlwm wrth y gwahanol benodau o fywyd babanod a phlant, o’r eiliad y crëwyd bywyd, ee ‘Yn y Dechreuad’ gan Aneirin Karadog a’r ‘Dadeni’ gan Mererid Hopwood, i fabandod – ‘Fy Mab’ gan Meirion MacIntyre Huws, ‘Bach ydi Baban’ Gwyn Thomas, ‘I Blentyn’ David Hoskins a cherddi am blentyndod – ‘Crio’ gan Rhys Dafis, ‘Chwerthin Eban’ gan Annes Glyn a’r dirdynnol ‘Marwnad Sion’ gan Lewys Glyn Cothi.

Mae’r profiad o weld plentyn yn dod i oed yn cael ei drafod gyda cherddi sy’n cynnwys ‘I’r Tinejyr’ gan Ceri Wyn Jones, ‘Allwedd’ gan Mari Lisa a ‘Croen’ gan Sian Northey, tra bo rhan olaf y gyfrol yn trafod y cwlwm rhwng plentyn a’i rieni gyda cherddi gan Gruffudd Antur, Tudur Dylan Jones ac Emyr Lewis yn eu plith.

“Roedd yna rai cerddi roeddwn i eisiau eu cynnwys o’r dechrau – ‘Marwnad Siôn y Glyn’ yn un - mae honno yn gerdd eiconig a’r angerdd a’r ing ynddi mor amrwd rŵan ac yn y bymthegfed ganrif pryd yr ysgrifennwyd hi,” meddai Haf.

“Ond fe ddaeth rhai wedi gwneud gwaith darllen ac ymchwilio, a rhai yn gerddi sydd wedi eu hysgrifennu yn arbennig ar gyfer y gyfrol. Mae yma gerddi annwyl a theimladwy, difrifol ac ysgafn ac rydw i wedi gwir fwynhau golygu’r casgliad. Tydi hi ddim yn gyfrol hir a’r gwaith anodd oedd dewis a dethol pa gerddi i’w cynnwys.”

- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,

A colour illustrated collection of 45 poems about children and childhood, composed mainly by contemporary poets, with some old-time favourites also included. A perfect gift.
A colour illustrated collection of 45 poems about children and childhood, composed mainly by contemporary poets, with some old-time favourites also included. A perfect gift.

Produktdetaljer

ISBN
9781906396794
Publisert
2014-11-04
Utgiver
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
150 mm
Bredde
150 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
72

Redaktør