Sut mae rhywun yn mynd ati i gwmpasu Ceredigion mewn cyfrol o gerddi? Gellid llenwi cyfres gyfan o gyfrolau yn hawdd, ond rhaid gosod y ffin yn rhywle, neu fe fyddwn fel y mapiwr enwog Jorge Luis Borges a wnaeth, yn ei awydd i gofnodi ei diriogaeth yn ei holl fanylion, greu map mor fawr â’r diriogaeth ei hun, nes bod dim gwahaniaeth rhyngddynt. Ni chwympir i fagl gorymdrechu fan hyn, a cheir amrywiaeth o destunau sy’n rhychwantu bron iawn bob cornel o’r sir.

Nid cerddi amlwg yn unig a geir, a cherddi gorau’r gyfrol yw’r rhai anghasgledig a’r rheiny gan feirdd nad ydynt o reidrwydd yn enwau sefydledig nac yn brifeirdd. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cyfraniad Damian Walford Davies, sef detholiad o’r casgliad o gerddi ‘Terfysg’. Mae’r gerdd gartograffig gyntaf – ‘Map (Arolwg Ordnans Rhif 198)’ – yn ymgorffori gweledigaeth dir-gofleidiol y gyfrol wrth sôn am ‘map yn blingo gwlad / hyd esgyrn ei chlogwyni, / hyd rydweli ffordd, / gwythïen meidr’. Canys ‘ar y tipyn papur hwn / mae cyfrinachau’: dehongliad yw map, wedi’r cyfan, gan nad oes modd cynnwys pob un peth. Rhaid dethol. Ond wrth i brofiad, hanes a daearyddiaeth gydgyfarfod ar y papur, rywle rhyngddynt fe ffurfir ‘cwlwm carennydd’.

Cefais flas neilltuol hefyd ar gyfraniad Iestyn Tyne, gyda’i ddwy gerdd fframiol ‘Cyrraedd Aber’ a ‘Gadael Aber’. Yn eu cynilder maent yn llwyddo i fynegi rhywbeth mawr. Wedi sylwgarwch rhestrgar y gerdd gyntaf (‘yr un yw’r plant ar risiau’r / capel, yr un yw’r sgyrsiau / wrth y drws; yr un / yw’r môr a’r adar mân’), gwelwn, erbyn ‘Gadael Aber’, ein bod ‘wedi dweud popeth sy’n weddill i’w ddweud’, gan fynd oddi yno wedyn fel ‘adar ar ffo’. Mae llawer o ofod rhwng y rhestru a’r llinellau moel yn y ddwy gerdd, a’r fath ofod sy’n dal orau naws unrhyw adael.

Cyfoethogir y cerddi gan y ffotograffau, ac mae’r naill yn cynnig sylwebaeth ar y llall. Rhyngddynt mae rhywbeth amgenach yn datblygu, ac mae’r dull trawsgelfyddydol hwn yn sicrhau nad rhywbeth statig mo’r cerddi hyn, gan fod y darllenydd yn cyfryngu yn anorfod rhwng y testun a’r ddelwedd. Ac wrth gwrs, gan taw cyflwyno bro Ceredigion yw’r nod, mae’r ffotograffau’n hanfodol wrth sicrhau bod y gyfrol hon yn fwy na dim ond blodeugerdd: mae’n cyfuno Ceredigion y dychymyg (Ceredigion y cerddi) a Cheredigion ddiriaethol y camera (Ceredigion y dŵr a’r ddaear).

- Morgan Owen @ www.gwales.com,

The beauty of Ceredigion has inspired many poets over the years, and this new volume comprises poems by various poets who sing about the county: the locations, buildings and people that have formed this incredible county with its rich culture. Photographs by Iestyn Hughes complement the text, creating a very appealing volume.
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781911584353
Publisert
2021-03-22
Utgiver
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
205 mm
Bredde
240 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet
Antall sider
104

Redaktør
Illustratør