Meddai T. James Jones yn ei ragair i'r gyfrol: 'Yn gyson ag amlochredd a sylwgarwch ei greadigaethau, amlygir yn y casgliad hwn, ochr yn ochr a dwyster emosiynau difrifol a thywyll, yr hiwmor chwareus a fu'n ddifyrrwch i'w deulu ac i gynifer o'i gyfeillion a'i ddarllenwyr.'
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Cafodd y byd llenyddol Cymreig golled enfawr pan fu farw Tony Bianchi yng Ngorffennaf 2017. Yn y degawd cyn ei farwolaeth bu’n llenor a bardd hynod gynhyrchiol, a bu’n llenydda hyd y diwedd, gan ennill y gystadleuaeth Llên Meicro yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017, ac anfon dwy bryddest i gystadleuaeth y Goron yno.
Ar ddechrau’r gyfrol hon ceir rhagair dadlennol a luniwyd gan Jim Parc Nest, ar gais yr awdur a’i bartner. Yn y rhagair cyfeirir at ysgolheictod yr awdur, a’i gyraeddiadau niferus fel ysgolor disglair. Yn ogystal, roedd yn gerddor medrus a thalentog. Sonnir am yr amrywiol ddylanwadau arno, ac fel y bu iddynt effeithio ar ei lenydda yn nes ymlaen, ac am arbenigedd ac ehangder ei ddiddordebau a’i gyflawniadau.
O droi at y cerddi, fe welwn fod yma gryn amrywiaeth o ran cynnwys ac o ran ffurfiau. Roedd yr awdur yn gynganeddwr rhwydd a chelfydd, a chymysgedd o’r caeth a’r rhydd a gawn yn y gyfrol. Llinell agoriadol ei englyn ‘Llyfr Mawr y Plant 1’ yw teitl y gyfrol.
Cerdd ddychan yw’r gerdd agoriadol, ‘Llythyr at yr Awdur’. Bu Tony Bianchi yn gweithio i Adran Lenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, a dychanu’r swydd honno a wneir yn y gerdd, wrth i’r corff wrthod rhoi nawdd i’r awdur – yr un math o beth felly ag a welwyd yn ei nofel gyntaf, Esgyrn Bach (2006).
Mae sawl tudalen o englynion yn dilyn, a bu nifer ohonynt yn fuddugol mewn cystadlaethau megis Gwobr Goffa W. D. Williams a chystadlaethau’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ôl meddwl mawr, gofal a thrylwyredd ar yr englynion, gyda phob gair yn talu am ei le. Nid englynion a luniwyd ar hap ydynt, ac mae angen pori uwch eu pennau er mwyn eu llwyr werthfawrogi.
Cyn gadael y canu caeth rhaid cyfeirio at ei gywydd ysgafn, cellweirus ‘Priodas Rhiannon a Gareth’, lle mae’n sôn am gael sgwrs â’i ferch, Rhiannon, ynglŷn â Gareth, ei ddarpar fab yng nghyfraith. Mae’r sgwrs rhwng y ddau yn ogleisiol tu hwnt, gyda’r bardd yn gorfod cydnabod yn y diwedd fod dadl ei ferch yn un gyfiawn, ac ‘Allai neb ond llawenhau!’
Gwahanol iawn yw naws y cerddi ‘Dianc’ a ‘Cartref’. Trafod ei berthynas â’i dad a wnaiff yn ‘Dianc’, a hynny ar ôl angladd y tad. Mae’n cyfeirio at yr ochr annymunol, dreisgar a oedd i gymeriad ei dad, a’r modd yr oedd hynny’n effeithio ar y teulu. Obsesiwn ei fam ynglŷn â glanweithdra a threfn yw byrdwn y gerdd ‘Cartref’.
I gloi’r gyfrol, ceir dwy bryddest dra gwahanol, a anfonwyd i gystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Môn. Stori fer o bryddest yw ‘Trwy Ddrych’, yn sôn am wraig yn mynd i gladdu llaw ei merch mewn mynwent, ar ôl i’r ferch gael ei lladd mewn ffrwydrad mewn tref sydd yng nghanol rhyfel treisgar. Pryddest wedi ei seilio ar arhosiad Joseph Conrad, awdur Heart of Darkness, yng Nghaerdydd yw ‘Cofeb’, ac mae’r gerdd ar ffurf diwrnod dychmygol. Denodd y ddwy bryddest sylwadau canmoliaethus gan feirniaid y gystadleuaeth, gan ddod yn agos i’r brig.
Trist yw meddwl mai hon fydd y gyfrol olaf a ddaw o law Tony Bianchi, y gŵr a gyfoethogodd y byd llenyddol Cymreig yn y fath fodd. Mae aml drysor ynddi, ac o ystyried ei gefndir a’i yrfa, ni allwn lai na rhyfeddu at ei ddawn a’i allu.
- John Meurig Edwards @ www.gwales.com,