Cerddi cyhoeddus yw’r rhain sy’n deillio o’r berthynas rhwng pobl. Tystiant i gwlwm unigolion (cariadon, teulu, cyfeillion) a chwlwm cymdeithas (dathlu, marwnadu, coffáu a chystadlu). Rhwng y ddeupen annatod hyn cawn helaethrwydd o ganu bywiol sy’n dyrchafu ystwythder ein barddoniaeth a’i gallu i addasu ac ymnythu yn ein bywydau o hyd. Fel y gellid disgwyl, cwmpesir cyfoeth o destunau, ond nid digyswllt yw’r cerddi hyn, fodd bynnag; ymddengys themâu penodol yn rheolaidd, a llwydda’r bardd i gynnig ei sylwebaeth ei hun arnynt heb golli golwg ar yr y testun. Un o’r themâu hynny, wrth reswm, yw’r iaith Gymraeg, a thrwy hynny Gymru. Yn y moli mae’r amddiffyn. Amlygir hyn mewn cerddi megis yr englynion i ddathlu pen-blwydd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn ddeg ar hugain (‘Y maes llên yw’r maes lluniaidd, / Ymchwil yw’r grym uwchlaw’r gwraidd’); y Gymraeg ym Margoed (‘Hon yw’r fro, rhain yw’r broydd / Sy’n pennu ffawd yfory’); dysgu’r iaith (‘Tyrd i flasu’r ddaear hon / Ar dy dafod newydd sbon’); a nifer o gerddi eraill, weithiau’n echblyg, weithiau’n ymhlyg. Dyma gorffori agwedd ddirfodol yn y canu mewn modd anymwthiol a chelfydd. Clymir cyd-destun wrth ddelwedd heb fod angen traethu. Ond un o’r pethau mwyaf diddorol am y gyfrol hon, ar wahân i’r cynganeddu medrus iawn, yw’r modd diymhongar yr ymdrwytha yn y traddodiad barddol, a’i gyflwyno ar wedd gyfoes. Enghraifft dda o hyn yw’r gerdd i’r cyflwynydd Iwan Griffiths, ac yn benodol, ei farf. Cawn ddychan coeth, geiriau cyfansawdd, a chadwyni delweddau afieithus: ‘Rhocyn y wên a’r can wot, / Wyt arch-wenwr trichanwot’; ac yn y man, ddiweddglo sydyn, brathog: ‘I’r farf fain rhof, ar f’enaid, / Unsill i gloi’r pennill – paid!’ Dyma ganu llyfn sy’n nes at ddelfryd dychan y Cywyddwyr. Mae yma ymwybod cryf â’r traddodiad, ond nid yw’n hynafol; dyma draddodiad yn ein hiaith heddiw, ar delerau heddiw; traddodiad sy’n newid i gyflawni anghenion yr oes. Caiff Aberystwyth le amlwg yn y gyfrol, ac mae gogwydd y bardd gwlad weithiau i’r cerddi amdani; ond eto, gwna’r bardd hyn ar ei delerau cyfoes ei hun, megis mewn cerdd i Aber-ddiblastig (‘... byddwn ryw dro’n / rhydd o iau’r pecynnau caeth, / rhydd o boen gorddibyniaeth’). Mae hefyd drwch o gerddi teimladwy ac urddasol, yn farwnadau, yn ddathliadau (‘Caf ddal yn dynn yn nwylo gwraig / Sy’n graig ym mrig yr eigion’), a cherddi rhyngwladol, llydan eu gorwelion. Dyma gerddi i’w datgan a’u cofio.
- Morgan Owen @ www.gwales.com,