A debut collection of poetry by Haf Llywelyn who lives in the Bala area, where the National Eisteddfod of Wales is held in 2009. Cyfrol gyntaf bardd sy'n byw ym mro'r Eisteddfod Genedlaethol 2009.
A debut collection of poetry by Haf Llywelyn who lives in the Bala area, where the National Eisteddfod of Wales is held in 2009. Cyfrol gyntaf bardd sy'n byw ym mro'r Eisteddfod Genedlaethol 2009.
Wrth i’r gyfres radio boblogaidd Talwrn y Beirdd ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed eleni, dywedodd y Meuryn, Gerallt Lloyd Owen, fod y rhaglen wedi bod yn hwb i nifer o bobl ddechrau barddoni a bod llawer mwy o ferched erbyn hyn yn aelodau o dimau gwahanol. Un o’r merched hynny yw Haf Llewelyn, y bardd o Lanuwchllyn ond sydd â’i gwreiddiau’n ddwfn yng Nghwm Nantcol, Ardudwy. Yn wir, enillodd Haf Dlws Coffa Cledwyn Roberts am y delyneg orau yng nghyfres y Talwrn yn 2002. Braf felly yw cael croesawu ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth.
Er bod Haf wedi byw ym Mhenllyn ers blynyddoedd bellach nid yr ardal honno sy’n ysbrydoli ei cherddi. Mae’n dychwelyd i ardal ei mebyd, i ddyddiau ei hieuenctid, lle cafodd ei magu ar fferm yng Nghwm Nantcol. Dywed y bardd ei hun fod y môr a hanes Ardudwy yn ei thynnu'n ôl ac mae hyn yn amlwg iawn yn ei gwaith. Mae llawer o’r cerddi'n darlunio bywyd cefn gwlad ac ardal sydd wedi newid yn sgil y mewnlifiad. Mae’r gerdd ‘Enw’, er enghraifft, yn sôn am fferm Llwyngwian yn Ardudwy a gafodd ei phrynu gan fewnfudwyr a newidiodd yr enw i fod yn ‘Meadow Farm’. Rhai o gerddi gorau’r gyfrol yw ‘Beth sy’n Bod ar Gymru?’ sy’n sôn am ddiffyg ymwybyddiaeth a gwybodaeth pobl o’n diwylliant ni fel Cymry ‘The trouble with Wales – it doesn’t ave culture.’
Trawiadol iawn hefyd yn llinellau agoriadol ‘Meirionnydd’–
Mae ’na fannau yma ’Meirion
all dorri ’nghalon i yn deilchion;
ma ’na fannau nad af yno
am nad ŷn nhw’n lle i Gymro.
Mae yma gerddi mwy personol yn y gyfrol hefyd, cerddi am berthynas a cherddi am aelodau o’r teulu – ‘Nain yn Llnau’r Capel’, ‘Rhyw Bethau Bach...’ am ei thad, a ‘Cwrlid’ am ei mam a’r gerdd ‘Crud’ a ysgrifennodd i Grisial, ei merch, wrthi iddi ddathlu ei phen-blwydd yn ddeunaw oed. Blas yn unig yw hyn o gyfrol gyntaf addawol iawn gan fardd sy’n prysur ennill ei phlwyf. Edrychaf ymlaen at weld rhagor o’i gwaith.
Les mer
Produktdetaljer
ISBN
9781906396176
Publisert
2009-07-16
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Forfatter