Beth yw hanfod barddoniaeth? I mi, y mynegiant ddaw’n flaenaf. Wedyn, ffurf neu adeiladwaith. Ar gyfer ffurfiau gosod fel y soned neu’r mesurau cynganeddol, ceir canllawiau pendant, wrth gwrs. Ond beth am gerddi rhydd, neu’r wers rydd fel y’i gelwir? I mi, rhythmau’r llinellau sydd bwysicaf.
Bu yna ar un adeg ragfarn yn erbyn cerddi rhydd. Teimlai rhai mai esgus dros fethu â chynganeddu neu ddilyn patrymau prydyddol oedd hyn. Anghytunaf yn llwyr. Teimlaf fod canllawiau yn ei gwneud hi’n haws creu cerdd. Gyda cherddi rhydd mae rhythmau a hyd llinellau’n holl bwysig. Mae barddoni’n rhydd yn rhywbeth greddfol, ac mae'r gynneddf honno yn gan Aled Lewis Evans.
A dyma i mi gryfder <i>Llinynnau</i>, cyfrol o gerddi rhydd sydd â’u llinellau a’u rhythmau’n disgyn i’w lle yn ddi-feth ac yn dirwyn yn ddi-dor. Ac mae arwyddocâd pellach i'r teitl, fel y nodir ar gefn y gyfrol, sef y llinynnau tyn sy’n cysylltu pawb ohonom. Nodir ymhellach mor fregus y gall y llinynnau hyn fod, o ran teulu, bro, iaith a ffydd, ynghyd â'r modd y gall llinynnau ein cynnal yn ogystal â'n carcharu.
Ceir yma ymron drigain o gerddi sy’n amrywio o ran eu themâu – pobl, mannau, profiadau, digwyddiadau. Fel y broliai un papur newydd ers talwm, ‘Mae holl fywyd dynoliaeth yma’.
Fel y nodir eto yn y broliant, clymau perthyn sy’n cysylltu’r llinynnau sy’n deitl i’r casgliad. Ac mae’r llun ar y clawr gan Luned Aaron yn cyfleu hynny’n berffaith. Llun o blentyn ac oedolyn law yn llaw, llun niwlog, atgofus o’r ddau yn crwydro’r hyn a all fod yn gae neu’n draeth dan awyr las. Yn wir, mae’r clawr yn arwain yn berffaith at y gerdd gyntaf, ac i mi un o gerddi hyfrytaf y casgliad, ‘Cyfeillgarwch’. Yma mae’r ddawn rythmig mor berffaith fel nad yw rhywun yn sylwi arni, bron. A dyna’r gamp.
Drwyddi draw mae’r llinellau’n llifo’n esmwyth, a'r rhythmau’n gweddu’n berffaith i hyd y llinellau. I mi, dyma’r llinynnau sy’n cynnal y cerddi, a llinynnau’r cerddi eu hunain yn ymrithio ac ymgordeddu.
Fel y gwna’r gerdd agoriadol, mae’r gerdd olaf hefyd yn gweddu’n berffaith i lun y clawr. Mae hi’n darlunio Dyffryn Tanat fel man llonydd. Ond uwchlaw mae arwyddion storm yn cyniwair, storm sy’n bygwth ‘chwalu pob llinyn yn rhacs’.
A dyna yw bywyd, onid e? Mae bysedd amser wrthi o hyd yn prysur geisio datod y clymau.
- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com,