Ym mis Hydref 1966 daeth pentref Aber-fan yn ffocws sylw a chydymdeimlad y byd cyfan yn sgil y ddamwain lofaol fwyaf ingol a fu erioed. Daeth hefyd yn ffocws i gorff o farddoniaeth Gymraeg ddigon trawiadol ac amrywiol wrth i'r beirdd hwythau ymateb i'r drychineb. Diben y gyfrol hon yw cywain y canu hwnnw ynghyd am y tro cyntaf a'i osod o fewn cyd-destun priodol, a hynny adeg 50 mlwyddiant y digwyddiad yn 2016. Bydd y gyfrol yn cynnwys: •rhagymadrodd cyffredinol sy'n rhoi portread o bentref Aber-fan ar ganol yr ugeinfed ganrif gan ei osod o fewn fframwaith hanesyddol / cymdeithasol /diwydiannol, a hefyd hanes y drychineb ei hun •rhagymadrodd beirniadol sy'n cynnig trafodaeth feirniadol ar y cerddi •casgliad o tua 60 o gerddi: ceir yma ganu caeth a chanu rhydd; englyn ac awdl a chywydd; cerddi hir a rhai byr. Ceir amrywiaeth diddorol hefyd o ran y beirdd a gynrychiolir, sydd yn eithaf croestoriad o ran oed a chefndir a lleoliad daearyddol — rhai ohonynt yn enwau amlwg iawn megis Gwenallt, Bobi Jones ac Iwan Llwyd, ond eraill yn feirdd gwlad digon 'diarffordd'. Mae yma gerddi a gyhoeddwyd ar y pryd a rhai a ymddangosodd ymhen blynyddoedd wedyn. Caiff y cerddi eu rhannu'n adrannau o dan y teitlau: Prolog, Naratif, Y Cnwd Cyntaf (1966-1973), Adlodd, Epilog. •nodiadau: ar gyfer pob cerdd rhoddir manylion bywgraffyddol cryno am y bardd, a nodi'r man(nau) lle y cyhoeddwyd y gerdd o'r blaen. Cynhwysir hefyd nodiadau dethol ar gyfeiriadaeth yn y cerddi nas trafodwyd eisoes yn y rhagymadrodd beirniadol. •lluniau (du a gwyn) a fydd yn ychwanegiad gweledol gwerthfawr i'r cerddi.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Gyferbyn â thudalen deitl y gyfrol ingol hon ceir llun sy’n crisialu trychineb a newidiodd fywydau cannoedd o drigolion Aber-fan am byth. Llun cloc sydd yno, cloc larwm cleisiog, ei fysedd wedi'u rhewi ac yn dangos 9.13 y bore. Y dyddiad oedd dydd Gwener, 21 Hydref 1966. Seriwyd y dyddiad a’r amser ar eneidiau’r genedl. Boddwyd Ysgol Pantglas gan gyfog trioglyd Tip 7, y slyri marwol a fygodd ac a ddarniodd gyrff 116 o blant a 28 o oedolion. Hanner canrif yn ddiweddarach ac mae trychineb Aber-fan yn rhannu'r seice cenedlaethol â thrychinebau Coed Mametz a Senghennydd. Yn y rhagair cawn amlinelliad o fwriad y gyfrol sef ‘edrych yn benodol ar ymateb y beirdd Cymraeg i’r digwyddiad’. Cyfeirir at swyddogaeth gymdeithasol beirdd dros y canrifoedd ‘i fod yn llais i ddelfrydau a dyheadau ac i ofnau a safbwyntiau eu cymunedau’. Ceir wedyn ragymadrodd cyfansawdd yn croniclo datblygiad y diwydiant glo yn ne Cymru, yn ardal Merthyr Tudful yn arbennig. Craidd y gyfrol yw’r casgliad o gerddi a gyfansoddwyd ar y pryd ac wedyn, fel ymateb i’r trychineb. Mae’r casgliad yn un swmpus ac amrywiol o waith beirdd amlwg a beirdd llai enwog. Mae’r farddoniaeth ei hun yn amrywiol hefyd, o gerddi cignoeth Gwenallt i alargan dyner Mererid Hopwood. Addas iawn fu agor y flodeugerdd gyda cherdd hyfryd Rhydwen Williams, ‘Yn Nheyrnas Diniweidrwydd’. Mae gosod y gerdd hudolus hon fel arweiniad i gerddi sy’n darlunio bryntni’r trychineb yn dra eironig. Yn dyfnhau’r pathos ac yn ailgynnau’r cof ceir nifer o ffotograffau du a gwyn, atgofion didostur o’r hyn a ddigwyddodd hanner canrif yn ôl. Mae’r darlun ar y clawr yn ddigon ynddo’i hun i ennyn dagrau. Ysgol Pantglas yn sarn, a bachgen yn cysuro bachgen iau, braich y mawr yn dyner dros ysgwydd y bychan. Ni wnaf feiddio dewis fy hoff gerddi o blith y pedwar ugain a mwy. Fe fyddai hynny fel gorfod dewis arch o blith casgliad o eirch. Ac eto mae rhyw harddwch yn yr anlladrwydd a adlewyrchir yn amryw o’r cerddi. Enynnant emosiynau’n amrywio o alar i ddicter. Cyfyd y cwestiwn, ‘Pam y caiff bwystfilod rheibus / Dorri’r egin mân i lawr?’ Dyma gyfrol y bydd rhywun yn dychwelyd ati dro ar ôl tro, nid i’w mwynhau, ond er mwyn peidio ag anghofio. Cyfyd pob math o emosiynau – galaru, cyhuddo, rhwystredigaeth, dicter, cofio. Mae’r emosiynau’n drên. Mae brawddeg ola’r rhagymadrodd yn crynhoi’r cyfan: ‘Senghennydd 1913. Aber-fan 1966. Hanner canrif, a beth – ie, beth, yn wir – oedd wedi newid?’ Yr ateb anochel yw ‘Dim byd’.
- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com,