Darllen difyr iawn, ’chan. Difyr iawn. Dwi ’di cael pleser mawr yn gafael yn y gyfrol yma’n ysbeidiol rhwng perfformiadau, gan ddarllen ryw bedair neu bum cerdd ar y tro. Be gewch chi yn y casgliad yma gan amrywiol o feirdd cyfoes Cymru ydi canu ysgafn, doniol, deifiol a ffraeth ar nifer o destunau gwahanol. Mae yna amrywiaeth mawr hefyd yn arddull y cerddi, o’r cywyddau a’r englynion caeth i gerddi odl a mydr a cherddi rhydd efo iaith hollol naturiol bob dydd. Da! Diddorol mai <i>Chwyn</i> ydi teitl y gyfrol, gan mai pethau ffiaidd ac atgas yw chwyn fel arfer, i’w difa a’u gwared er mwyn gwneud lle i’r blodau tlws cain – sef y farddoniaeth safonol ddifrifol ddwys a edmygir cymaint. Ond mae mawredd mewn chwyn hefyd. Y mae ganddynt ruddin a gwraidd a styfnigrwydd i fynnu eu lle. A diolch i’r drugaredd am hynny. Yn eironig ddigon, yng ngherdd gynta’r casgliad, mynnu garddwr y mae Rhys Iorwerth i’w helpu i wared ei driffids, 'yn ei rhaib a’i blagur ha’, mae sin fel Amazonia.' Chwyn ar ei wyneb sydd gan Iwan Rhys yn ‘Marwnad fy Marf’. Mae llinellau gwych y gerdd yn ymdebygu ei dyfiant barfog i 'pennaf sgrwbiwr ffrimpenni' a 'fy nhumbleweed, fy Numbledore'. Dwi’n dotio at gywydd Llŷr Gwyn Lewis ‘Yr Wylan’ a’i adleisio clyfar ond troëdig ar gerdd eiconig Dafydd ap Gwilym – 'Achwyn y mae am gachu! – am bibo di-baid y gwylanod arno, ond er ei gŵyn ni all eu casáu - 'sŵn rhain yw sŵn y ’nhre i'. Mae nifer o barodïau llawn dychymyg fel ‘Gwerthu’ gan Arwel Pod ac ambell gic hob-nȇlar gwleidyddol fel ‘Cȃn y Llamhidydd’ gan Osian Rhys. Ac mae ‘thtori Crwyth y pythgodyn thi bath’ gan Iwan Rhys yn gneud imi chwerthin rŵan wrth ei chofio hyd yn oed. Mae hi’n apelio’n fawr at fy synnwyr digrifwch swreal o hurt ac od i, ac am ryw reswm yn f’atgoffa o gerdd wych Stanley Holloway, ‘The Lion and Albert’. A’r diweddglo mor annwyl a diniwed anticleimacs. Ni allaf enwi pob bardd a dyfynnu o bob cerdd ond gwir yw dweud bod perlau ar fwclis y sgwennu trwyddi draw. Os oes gennych synnwyr digrifwch o gwbl, yna mi wnewch fwynhau darllen <i>Chwyn</i>. Bydded i’r math yma o gerddi gael eu cytir eu hunain, a hwnnw ar dir ffrwythlon gyda digon o olau dydd chwaeth a dŵr hiwmor. Mae mawredd mewn mieri!
- Dafydd Emyr @ www.gwales.com,