Yn dilyn cyhoeddi’r gyfrol <i>Beirdd Bro’r Eisteddfod</i> y llynedd, i gyd-fynd ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau, roedd yn braf gweld cyfrol gyffelyb yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Sir Gâr eleni. Y golygydd y tro hwn yw Geraint Roberts, y gŵr a oedd yn gadeirydd Is-bwyllgor Llenyddiaeth yr Eisteddfod eleni.
Ceir pennod agoriadol yn dwyn y teitl ‘Traddodiad Barddol Sir Gaerfyrddin’, gan Tudur Hallam. Mae hon yn bennod werthfawr, gryno sy’n olrhain traddodiad barddol y sir yn ôl i gyfnodau cynnar llenyddiaeth Gymraeg, ac yn gosod beirdd y sir drwy’r canrifoedd yn eu cyd-destun Cymreig. Datblygodd y traddodiad o gyfnod y cywyddau cynnar drwodd i ganu newydd y <i>vers libre</i>. Pennod lawn gwybodaeth, felly, am rai o ‘geiliogod disgleiriaf y sir’, chwedl yr awdur.
Cerddi gan bedwar ar bymtheg o feirdd cyfoes y sir yw cynnwys y gyfrol – pedwar ar ddeg o ddynion a phum merch, ac yn eu plith mae nifer o brifeirdd. Fe'u cyflwynir i ni yn nhrefn yr wyddor, ac mae bywgraffiad byr a diddorol yn rhagflaenu cerddi pob un ohonynt. Fel y gellid disgwyl, mae amrywiaeth eang yng nghynnwys y cerddi a’r mesurau, ac mae lle amlwg i’r caeth a’r rhydd.
Yn naturiol, mae nifer fawr o’r cerddi wedi'u gwreiddio yn nhir a daear Sir Gâr, ac eraill yn sôn am wrthrychau a phobl sy’n gysylltiedig â’r lle. O droi at ‘<i>Mene Tecel</i> Sir Gaerfyrddin’ gan Peter Hughes Griffiths, a luniwyd ar gyfer Gŵyl Gyhoeddi'r Eisteddfod eleni, cawn banorama o hanes, traddodiadau ac enwogion y sir, o dderwen Myrddin hyd at ddyddiau ‘Gerald, Grav a Roy a Delme’.
Yn ogystal â’r enwau cyfarwydd, mae’n braf gweld yma gerddi mewn print gan feirdd sydd heb gyhoeddi llawer o’u gwaith. Er enghraifft, pleser mawr i mi’n bersonol oedd darllen cerddi Arwyn Evans o Gynghordy, gŵr y cefais y fraint o gydweithio ag ef am flynyddoedd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, a gŵr a fu’n ddylanwad mawr ar y Twm Morys ifanc. Mae gan ei gerddi rhydd ryw naws delynegol hyfryd, ac mae Arwyn yn gynganeddwr medrus iawn hefyd, fel y dengys ei englynion.
Er bod y gwragedd yn y lleiafrif yn y gyfrol, mae’r pump sydd yma yn feirdd o’r iawn ryw. Go brin fod angen cyflwyno Mererid Hopwood i lengarwyr Cymru – y ferch sydd eisoes wedi cipio’r Gadair, y Goron a’r Fedal Ryddiaith yn ein Prifwyl. Mae’r un naws a’r tynerwch ag a gafwyd yn ei hawdl ‘Dadeni’ yn Eisteddfod Sir Ddinbych 2001 i’w canfod yma mewn cerddi megis ‘Alaw’ a ‘Hwiangerdd Afon Tywi’.
Ym mhumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf fe gyhoeddwyd cyfres o lyfrau mewn cloriau glas yn cynnwys cerddi beirdd gwahanol siroedd, gydag ‘Awen’ yn y teitl, er enghraifft ‘Awen Myrddin’. Rhaid llongyfarch pobl Sir Ddinbych a diolch iddynt am roi cychwyn ar gyfres arall gyffelyb o gynnyrch beirdd bro’r gwahanol eisteddfodau. Wn i ddim a yw’n fwriad gan Faldwyn i barhau â’r gyfres y flwyddyn nesaf pan ddaw’r Eisteddfod i Feifod, ond gobeithio’n fawr y gwneir hynny. Yn y cyfamser, prynwch y gyfrol ddifyr ac amrywiol hon, a mwynhewch beth o gynnyrch beirdd Sir Gâr, gan ddiolch i’r sir honno am roi i ni’r fath ŵyl wych eleni.
- John Meurig Edwards @ www.gwales.com,