‘Yn dilyn stormydd mawr gaeaf 2013–14 daeth olion coed i’r amlwg yn nhywod traeth Borth, Ceredigion a mannau eraill ar hyd arfordir Cymru. Yn ystod yr Oes Ia ddiwethaf, rhyw ugain mil o flynyddoedd yn ôl, pan oedd cymaint o ddŵr wedi ei ddal mewn llenni ia a rhewlifoedd, roedd lefel y moroedd yn is, coed yn tyfu lle mae traethau heddiw, ac afonydd mawr, yn hytrach na moroedd yn rhannu ynysoedd Prydain oddi wrth Iwerddon a thir mawr Ewrop. Gadawodd y rhewlifoedd y sarnau – Sarn Cynfelyn, Sarn Badrig a Sarn y Bwch – yn ymestyn yn syth allan i’r Bae fel waliau teyrnas. Yn raddol, cododd y moroedd eto wrth i’r ia gilio. Mae tirwedd gorllewin Cymru wedi ysbrydoli chwedlau, straeon, llen gwerin a barddoniaeth gan gynnwys Cantre’r Gwaelod ac ail gainc y Mabinogi – pan mae’r cyfarwydd yn adrodd mai dwy afon oedd yn rhannu Cymru ac Iwerddon ar y pryd – Lli ac Archan – cyn bod y môr yn codi ac yn boddi’r tir. Ond, ai’r sarnau a’r coed yn y tywod yn unig sydd wedi ysbrydoli’r cerddi a’r straeon yma, neu a oedd rhyw gof gan y gymuned, wedi ei drosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, am y môr yn codi yn raddol bach ac yn boddi’r coedwigoedd a’r caeau? Pwy a ŵyr? Mewn cyfnod o newid hinsawdd, pryd y mae cymunedau yng Nghymru a thu hwnt yn cael eu bygwth gan stormydd a moroedd yn codi unwaith eto, mae’r tirweddau hynafol ond newidiol yma yn ysbrydoli cymaint ag erioed.’ Hywel Griffiths
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,