Fel y dywed golygydd y gyfrol, Tegwyn Jones, tasg debyg i un Culhwch yn ceisio ennill llaw Olwen oedd rhoi'r amryddawn Hywel Teifi Edwards rhwng dau glawr ond mae wedi llwyddo'n rhyfeddol. Does dim dwywaith nad yw’r awdur yn adnabod ei wrthrych yn dda. Dewiswyd dull hynod o effeithiol i gyfleu’r fro a throeon yr yrfa sef geiriau Hywel Teifi ei hun.
Dyddiau mebyd Aber-arth a geir y sylw cyntaf – ac fe gyflwynir y teulu a’r ardal drwy ddyfyniadau o sgyrsiau a gyflwynwyd gan Hywel Teifi gerbron Cyfeillion y Cyngor Llyfrau. Dyfynnir hefyd bwt o sgwrs rhwng Hywel a’i chwaer, Myfanwy, a ddarlledwyd mewn rhaglen ar gyfer S4C a hefyd sgwrs a recordiwyd ar gyfer rhaglen <i>Beti a’i Phobol</i> yn 1989 – ac felly yr â’r gyfrol yn ei blaen gan nodi’r cerrig milltir yn gwbl gelfydd.
Roedd gan Hywel ddiddordeb mawr mewn chwaraeon a bu ar un adeg yn dipyn o bêl-droediwr, fel y tystia'r rhai sy'n cofio am ei gampau ar y cae. Yn wir, mae'r llun ohono'n chwarae ar y Cae Sgwâr yn Aberaeron yn dweud y cyfan!
Symudir ymlaen yn dwt wedyn at hanes gadael yr aelwyd yn Aber-arth ac at ei gyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth ac at ddechrau gyrfa. Fe briododd â Rona a daeth dau gyw arbennig iawn i’r nyth – Huw a Meinir – ac yn y bennod hon hefyd ceir lluniau hyfryd o’r genhedlaeth nesaf, a Hywel yn amlwg wedi dotio ar fod yng nghanol y bwrlwm teuluol. Dengys Tegwyn Jones fod Hywel yn ddyn teulu arbennig iawn, ond efallai mai fel ysgolhaig y gwyddom ni’r darllenwyr amdano orau, a dyma’r bennod sy’n cael sylw nesaf yn y gyfrol hon. Meddai Geraint Jenkins, ‘Yr wyf o’r farn fod Hywel yn ysgolhaig gwirioneddol fawr – efallai y mwyaf a welwyd yn Adrannau Cymraeg Prifysgol Cymru erioed.’
Roedd hefyd yn wleidydd brwd, a neilltuir pennod i hynny a phennod gyfan, fel y disgwylir, i’r Eisteddfod. Gwyddai bopeth oedd i wybod am yr Eisteddfod wrth gwrs; bu’n feirniad ac yr oedd ganddo farn bendant amdani, fel y nodir yn y gyfrol. Ond daw'r llyfr i ben yn Llangennech, ardal lle y bu ef a’i deulu yn byw ynddi er 1965, er mai'r llun olaf yn y gyfrol, yn naturiol ddigon, yw hwnnw a dynnwyd ar ddiwrnod angladd Hywel Teifi yn Aber-arth. Yn ei eiriau ef ei hun, ‘Yn Llangennech y bydda i bellach tan ddiwedd oes, ac wedyn, fel y teid yn dod fyny i Lwchwr fe a’ i’n ôl i Aber-arth.’
Dyma’n wir gofnod hyfryd o gerrig milltir y cawr o Aber-arth – cofnod cynnes iawn gan un a oedd yn ei adnabod yn dda ac a lwyddodd i gyfleu prif ddigwyddiadau bywyd Hywel drwy gyfrwng atgofion y dyn ei hun ac atgofion a sylwadau ei gyfeillion. Dyma lyfr i’r sawl nad oedd yn adnabod Hywel Teifi yn dda ond dyma gyfrol hefyd i’r rheiny a oedd yn gyfeillion agos iddo ac yn ei adnabod yn dda. Daw'r darllenydd i wybod rhywbeth newydd am y gŵr o Aber-arth, gan drysori'r stôr o atgofion a gyflwynir yma'n gofiadwy mewn gair a llun.
- Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com,