Fel un a dyfodd i fod yn eicon yn ei oes ei hun, nid rhyfedd bod sawl cyfrol am T. Llew Jones wedi ymddangos mor fuan ar ôl ei farw. Diau y gwelir mwy yn y dyfodol yn canolbwyntio ar wahanol agweddau o'i fywyd a’i waith, ond cofiant cyflawn sy’n cyffwrdd â phob agwedd a geir yn y gyfrol hon, gan un a’i hadwaenai’n dda ac sy’n un o’i edmygwyr selocaf. Teitl addas yw <i>Tua’r Gorllewin</i>, sef deuair cyntaf y llinell gofiadwy honno gan T. Llew, ‘Tua’r gorllewin mae bro eithinog’, a hyfryd o baragraffau agoriadol sydd gan Idris Reynolds yma, lle trewir y nodyn o hud a lledrith sydd mor amlwg yng ngwaith y bardd a’r nofelydd drwyddo draw, yn enwedig yn ei gyfraniad toreithiog i lenyddiaeth plant Cymru. Honnodd ef ei hun fod ‘rhyw Peter Pan o’i fewn na fynnai heneiddio’, a phan holai’r plant ef am eirwiredd y stori a adroddai iddynt, ‘gallai’ yn ôl ei gofiannydd, ‘edrych i fyw eu llygaid ac ateb gyda chydwybod glir: "Mae’n wir i fi."’

Ond ni allodd T. Llew Jones, fwy na’r un ohonom, ymgartrefu’n barhaol yn y gorllewin hudol hwnnw, ac o’i eni yn 1915 hyd ei farw yn 2009, daeth i’w ran yntau y melys a’r chwerw: plentyndod hapus ond tlawd, colli ei dad yn ieuanc a gorfod mynd allan i ennill trwy weithio ar ffermydd, torri coed, cario post, maglu cwningod, clercio mewn swyddfa a chasglu yswiriant. Treulio pum mlynedd ‘yn gaeth i iwnifform a disgyblaeth’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn hiraethu am wraig a mab ieuanc yn ôl yng Nghymru. Ac felly yn y blaen. Cawn ddarllen am ei yrfa ym myd addysg, ei ysfa i ysgrifennu, ei gampau eisteddfodol, ei ddiddordeb mewn llên gwerin a llawer mwy. Heb lynu’n rhy agos at y drefn gronolegol, adroddir ei hanes yn raenus-hamddenol ac yn ddifyr, gan blethu iddo ddyfyniadau o’i farddoniaeth.

Un o’r penodau mwyaf diddorol yn y gyfrol, a hynny’n bennaf am fod ynddi ddeunydd a fydd yn newydd i lawer darllenydd, yw’r bennod ‘A chwaraei di wyddbwyll?’ Yr oedd diddordeb a gallu T. Llew mewn perthynas â’r chwarae hynafol hwn (heb sôn am ddisgleirdeb ei fab Iolo wrth ei arfer) yn wybyddus i lawer, ond faint ohonom a wyddai mai trwy ei ymdrechion ef ac ychydig Gymry o gyffelyb fryd y ‘cafodd Cymru eistedd yn ei phriod le o gylch y bwrdd gwyddbwyll gyda chenhedloedd eraill y byd’ yn hytrach na bod yn hollol glwm wrth Loegr? Ac y mae llawer agoriad llygad arall yn y bennod bwysig hon yr oedd mawr angen ei hysgrifennu. Gwelwyd yr un penderfyniad a dygnwch yn ei wrthwynebiad i ‘Gymraeg Byw’ a’i safiad digymrodedd yn erbyn yr hyn a alwai’n ‘farddoniaeth dywyll’. Ar ôl cael ei glwyfo – ac yr oedd yn un hawdd i’w glwyfo – gan adolygiad un o feirdd mwyaf dyrys ei gyfnod ar gyfrol o’i gerddi, sylw T. Llew mewn sgwrs gyhoeddedig ddiweddarach oedd, ‘Nid oes gan y <i>critics</i> mwyaf ddim golwg ar y math o farddoniaeth a sgrifennaf i. Ac i fod yn onest nid oes gennyf innau ddim golwg ar y math o farddoniaeth dywyll a diawen a glodforir ganddynt hwy’. <i>Touché</i> yn wir!

Ar glawr y gyfrol ceir darlun o T. Llew yn eistedd o flaen arwydd ffordd sy’n cynnwys pedwar o enwau lleoedd ei filltir sgwâr. O’r pedwar, un yn unig a sillafwyd yn gywir yn ôl yr egwyddorion a geir yn <i>Rhestr o Enwau Lleoedd</i> a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cymru yn 1957. Ar Gyngor Sir Ceredigion y mae’r bai am hynny, wrth gwrs, a da yw cael cyhoeddi na cheir cyffelyb slapdashrwydd rhwng cloriau’r gyfrol hon. Da gweld hefyd barchu’r hen arfer o hepgor y fannod o flaen enw afon yn y Gymraeg. Pethau bychain efallai, ond pethau sy’n ychwanegu’n ddirfawr at y pleser a’r mwyniant a geir o ddarllen y cofiant campus hwn i un o gymwynaswyr mawr Cymru a’r Gymraeg yn ein dyddiau ni.

- Tegwyn Jones @ www.gwales.com,

T. Llew Jones left his mark on the nation in so many fields, and in this volume we hear about his contribution as a poet and novelist, literary critic, school teacher, chess player and antiquarian. He is also remembered as a raconteur, public figure and private head of his family. The backdrop to the portrayal is the magic of west Wales which so influenced T. Llew Jones. Gadawodd T. Llew Jones ei ôl ar y genedl mewn nifer o wahanol feysydd, ac yn y gyfrol hon trafodir y bardd a'r nofelydd, y beirniad llenyddol, yr athro ysgol, y gwyddbwyllwr a'r hynafiaethydd. Nid anghofir chwaith am y cwmnïwr diddan, y ffigwr cyhoeddus a'r penteulu preifat. Ac yn gefnlen i'r portread ceir cip ar hud a lledrith gorllewin Cymru T. Llew Jones.
Les mer
T. Llew Jones left his mark on the nation in so many fields, and in this volume we hear about his contribution as a poet and novelist, literary critic, school teacher, chess player and antiquarian. He is also remembered as a raconteur, public figure and private head of his family. The backdrop to the portrayal is the magic of west Wales which... Gadawodd T. Llew Jones ei ôl ar y genedl mewn nifer o wahanol feysydd, ac yn y gyfrol hon trafodir y bardd a'r nofelydd, y beirniad llenyddol, yr athro ysgol, y gwyddbwyllwr a'r hynafiaethydd. Nid anghofir chwaith am y cwmnïwr diddan, y ffigwr cyhoeddus a'r penteulu preifat. Ac yn gefnlen i'r portread ceir cip ar hud a lledrith gorllewin...
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396374
Publisert
2011-07-28
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
216

Forfatter