Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar a chreadigol ei genhedlaeth. Er mwyn nodi trichanmlwyddiant geni'r emynydd yn 2017, mae Gwasg Prifysgol Cymru yn ailgyhoeddi'r gyfrol; mewn rhagymadrodd helaeth i'r cyhoeddiad newydd, mae D. Densil Morgan yn dadansoddi cynnwys y gwaith, ei dafoli'n feirniadol ac yn olrhain ei ddylanwad ar y meddwl Cymreig o'i gyhoeddi yn 1927 hyd heddiw. Mae'n ddathliad deublyg o greadigrwydd Saunders Lewis ac o gyfraniad aruthrol y Per Ganiedydd i waddol y diwylliant cenedlaethol.
Les mer
Un o gyfrolau mwyaf dadleuol yr ugeinfed ganrif yw Williams Pantycelyn gan Saunders Lewis, ac ymhlith yr astudiaethau beirniadol mwyaf cynhyrfus i ymddangos erioed yn y Gymraeg. Cynigiodd y gyfrol ffordd newydd i ddehongli athrylith yr emynydd o Bantycelyn, a thrwy hynny sefydlu enw Saunders Lewis fel beirniad mwyaf beiddgar ei genhedlaeth.
Les mer
Rhagymadrodd Newydd gan Densil MorganRhagairPennod I. Yr Estheteg GymreigPennod II. Drws y Society ProfiadIII. Ffordd y Puro: 1744-1752IV. THeomemphus: Y RhagymadroddV. Troedigaeth LlancVI. AlethiusVII. Amor SponsiVIII. Ffordd yr UnoIX. ArddullX. RhamantiaethMynegai
Les mer
'Rhaid imi gyfaddef fod Williams Pantycelyn yn un o'm hoff lyfrau i. Mae ei ddarllen yn brofiad cynhyrfus o hyd...Pan gyhoeddwyd ef yn 1927, roedd y llyfr yn bennod newydd yn hanes beirniadaeth lenyddol Gymraeg. Roedd Saunders Lewis eisoes wedi cyflwyno ei weledigaeth parthed mawredd y traddodiad barddol clasurol Cymraeg - ein prif gyfraniad i ddiwylliant Ewrop - ond dyma fe yn awr yn amlygu cyfraniad Cymru i brif fudiad syniadol y Cyfnod Modern Cynnar, sef Rhamantiaeth. Yn ei ragymadrodd i'r adargraffiad hwn, llwydda'r Athro D.Densil Morgan i esbonio'r cyffro deallusol a achoswyd yng Nghymru gan y gyfrol hon. Esbonia hefyd sut y llwyddodd y dehongliad i ddal ei dir yn syndod o dda yn wyneb sawl beirniadaeth arno. Mae yma yn ogystal gyflwyniad campus i fywyd a gwaith Saunders Lewis yn gyffredinol. Dyma ragymadrodd ysgolheigaidd, darllenadwy, sy'n llwyddo i werthfawrogi mawredd y testun a gyflwynir inni o'r newydd eleni. Eir ati i amlygu rhai o ddylanwadau'r gyfrol, rhai o'i gwendidau, ond heb golli golwg ar y ffaith fod hon yn gyfrol tu hwnt o flaengar yn ei dydd wrth i'r awdur wneud llenyddiaeth Gymraeg yn beth byw a dwyn i feirniadaeth lenyddol nifer o syniadau seicdreiddiol newydd' - AthroTudur Hallam, Barn, Chwefror 2017
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781783169627
Publisert
2016-11-15
Utgiver
Vendor
University of Wales Press
Høyde
198 mm
Bredde
129 mm
Aldersnivå
UP, 05
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Innbundet

Forfatter
Introduction by

Biographical note

Roedd Saunders Lewis yn ddramodydd, bardd, nofelydd, beirniad ac arweinydd gwleidyddol.Mae D. Densil Morgan yn Athro Diwinyddiaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan. Cyhoeddodd yn helaeth ar hanes crefydd a diwylliant yng Nghymru'r cyfnod modern.