"Hyfrydwch yw cael eich croesawu i barti pen-blwydd <i>Barddas</i> yn ddeugain oed. Dathliad yw'r gyfrol hon o gylchgrawn a fu'n difyrru, cynhyrfu ac yn ysbrydoli beirdd Cymru a'u caredigion ers 1976. Mae'r 311 rhifyn a gyhoeddwyd hyd yn hyn yn drysorfa. Ni all dau fardd ifanc fel ni ond dotio at y fath gyfoeth amrywiol o gerddi ac erthyglau, adroddiadau a lluniau, cartŵns a theyrngedau, hysbysebion a llythyrau tanllyd a gyhoeddwyd yn <i>Barddas</i> dros y blynyddoedd. Ein braint oedd cael darllen drwy'r cyfan er mwyn ceisio'u cywasgu i'r gyfrol hon.<br />
Cyflwynwn y gyfrol, yn gyntaf, mewn ysbryd o gymwynasgarwch. Ein nod oedd tyrchu drwy'r holl ôl-rifynnau, gan dynnu ohonynt y dyfyniadau a'r lluniau mwyaf difyr ac arwyddocaol, ac ymdrechu i osod y rheiny mewn cyd-destun synhwyrol a naratif eglur, diduedd. Hynny yw, fe aethom ni drwy'r holl rifynnau er mwyn arbed i'r darllenwyr y drafferth o wneud hynny eu hunain! Cyflwyno oedd ein bwriad, nid dehongli; rydym yn ffyddiog y ceir, maes o law, ddeongliadau ysgolheigaidd lu o gymhellion a dadleuon <i>Barddas</i>, ond nid yn y gyfrol hon y'u ceir. Nid ydym, chwaith, wedi cynnwys dyfyniadau o gyhoeddiadau eraill y bu rhyngweithio rhyngddynt a <i>Barddas</i> – stori Barddas yw hon, ac yng ngeiriau <i>Barddas</i> y'i dywedir." (O'r Cyflwyniad gan Gruffudd Antur a Guto Dafydd)
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Yn 2016 rydym yn dathlu pen-blwydd y cylchgrawn <i>Barddas</i> yn ddeugain oed, ac i nodi’r achlysur aeth y golygyddion ati i bori drwy'r holl ôl-rifynnau, a chyflwyno i ni ddetholiad o’r hyn a ymddangosodd ynddynt. Fel y nodir yn y cyflwyniad, detholiad sydd yma o’r ‘cyfoeth amrywiol o gerddi ac erthyglau, adroddiadau a lluniau, cartŵns a theyrngedau, hysbysebion a llythyrau tanllyd’. Ac ystyried bod y cylchgrawn wedi ei sefydlu ym 1976, a bod 330 o rifynnau wedi cael eu cyhoeddi, cryn gamp oedd mynd ati i ddidoli a dethol o’r fath doreth o ddeunydd. Pwysleisir mai cyflwyno detholiad oedd y bwriad, heb fynd ati i ddehongli a dadansoddi, a detholiad cyfoethog ydyw hefyd, gyda rhywbeth yma i blesio pawb. Canolbwyntir ar yr erthyglau a ymddangosodd yn y cylchgrawn yn hytrach nag ar y nifer fawr o gerddi a gyhoeddwyd.
Os oes un enw y dylid ei gysylltu â <i>Barddas</i>, yna enw Alan Llwyd yw hwnnw. Ef fu’r golygydd am y rhan fwyaf o oes y cylchgrawn, hyd nes iddo roi'r gorau i'r gorchwyl hwnnw yn 2011. Priodol iawn, felly, yw mai iddo ef y cyflwynir y gyfrol ‘yn arwydd o’n gwerthfawrogiad a’n parch at ei holl waith’.
Y symbyliad dros sefydlu’r cylchgrawn yn y lle cyntaf oedd y dadeni a’r diddordeb a fu yn y canu caeth yn ystod y 1970au, gyda llawer o bobl ifanc yn ymddiddori yn y grefft ac yn ei hymarfer. Llywydd cyntaf y Gymdeithas Gerdd Dafod oedd T. Llew Jones, a’r golygyddion ar y cychwyn oedd Alan Llwyd a Gerallt Lloyd Owen. Yn y rhifyn cyntaf mae Alan Llwyd yn nodi'r bwriad yn glir: ‘Ein nod yw gwarchod un agwedd hynafol a chyfoes ar ein diwylliant ni ... ei gwarchod a’i hybu fel rhywbeth byw, cyfoes a thanbaid.’
Eithr nid cynhyrchu cylchgrawn oedd unig fwriad y gymdeithas. Sefydlwyd panel i ystyried rhai materion ‘technegol’ ynglŷn â chrefft y gynghanedd, a bu cryn ddadlau ac anghytuno ar rai pwyntiau. Sonnir am Roy Stephens yn mynd ati i greu’r <i>Odliadur</i>, a bu tipyn o drafod ‘tafod yn y foch’ am greu compiwtar cynganeddu. Aethpwyd ati i drefnu Cynhadledd Barddas, a chynhaliwyd y gyntaf ym 1977. Rhoddwyd cynnig ar fentrau newydd, megis y cynllun i greu casetiau o feirdd yn darllen eu gwaith; a sefydlwyd Gwasanaeth Barddoni Barddas, lle gallech gomisiynu bardd i lunio cerdd i chi. Daeth cyhoeddi cyfrolau gwerthfawr yn rhan o waith y gymdeithas hefyd, a chafodd nifer o flodeugerddi cynhwysfawr groeso brwd.
Deliwyd â sawl mater dadleuol ar dudalennau’r cylchgrawn ar hyd y blynyddoedd. Ymosodwyd ar yr Eisteddfod Genedlaethol am godi tâl cystadlu ar feirdd a llenorion, a bu tipyn o drafod a gwrthdaro wrth ystyried gwerth a diben yr hyn a elwir yn ‘farddoniaeth dywyll’. Bu trafod brwd ynglŷn â barddoniaeth wledig a barddoniaeth ddinesig, sef cerddi’r ‘Pridd a’r Concrid’. Daeth safonau beirniadu yn ein heisteddfodau lleol hefyd o dan y lach.
Cafwyd erthyglau’n delio’n benodol â beirdd arbennig, megis Gwyn Thomas, R. Williams Parry a Gerallt Lloyd Owen, ac yn achlysurol deliwyd ag ambell gerdd nodedig, fel awdl Gerallt, ‘Cilmeri’. Rhoddwyd gofod i drafod beirniadaeth lenyddol, a chafwyd cyfraniadau gan bobl fel John Rowlands a Bobi Jones. Bu gan feirdd a llenorion golofnau cyson yn y cylchgrawn, megis ‘Ar yr Einion’ gan Einion Evans, ‘Desg y Disgybl’ gan Donald Evans, ac mae’r arferiad hwn yn parhau hyd heddiw, gyda cholofnau gan gyfranwyr fel Sian Northey, Dewi Prysor, Ceri Wyn Jones ac eraill.
Cyfrol hynod amrywiol yw hon, felly, un y gellir ei darllen ar ei hyd neu fwrw iddi’n achlysurol am damaid o rywbeth blasus. Ni allwn lai na rhyfeddu at yr hyn a gyflawnwyd gan y golygyddion a’r cannoedd cyfranwyr dros ddeugain mlynedd. Ac wrth ddymuno pen-blwydd hapus i <i>Barddas</i>, ein gobaith yw y bydd y cylchgrawn a'i apêl yn parhau am ddeugain mlynedd arall, a mwy.
- John Meurig Edwards @ www.gwales.com,