Ers marw'r Prifardd Dic Jones dair blynedd yn ôl, ac yntau ar y pryd yn Archdderwydd, mae yna lawer o gyfrolau wedi’u cyhoeddi i gofio amdano. Casgliadau o'i gerddi penigamp yw nifer ohonynt, ond y tro hwn, cawsom gan Barddas gyfrol o luniau a nodiadau, yngyhyd â rhai cerddi, sy’n crynhoi cerrig milltir bywyd Dic, a'r cyfan wedi’i gywain yn gelfydd gan Dai Rees Davies.
Rhennir y gyfrol yn adrannau – lluniau teulu bore oes, hanes Aelwyd yr Urdd Aberporth, hanes Dic a Siân a’r teulu, Dic yr amaethwr, Dic y cerddor, Dic y llenor, Dic yr actor a’r cymdeithaswr, Dic yr Archdderwydd, ac yn olaf, atgofion amdano.
Mae yma stôr o luniau difyr, rhai’n cofnodi tristwch, eraill yn cofnodi llawenydd. Pennod hynod drist i’r teulu fu colli Esyllt, gefell Tristan, ac y mae’r alarnad a gofnodir yma (ac mewn cyfrolau eraill) yn dorcalonnus:
Dygwyd ein Esyllt egwan, – mam na chaiff
Mwy na chôl na chusan,
Beth sy’n fwy trist na Thristan
Yn ceisio cysuro Siân?
Mae ’na luniau eraill a nodiadau digon difyr ynghlwm wrthynt. Dyma’r un, er enghraifft, am bedwarawd SATB Aber-porth yn canu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abergwaun, a Dic yn aelod o’r pedwarawd. Mae’n debyg i’r gynulleidfa wirioni ar harmoni’r pedwar llais, a disgrifiodd y beirniad eu perfformiad fel un perffaith! Difyr, hefyd, yw gweld a darllen am chwiorydd Dic a'i ddiweddar frawd, ac am Dic yr actor – hanes na wyddwn i ddim amdano!
Mae yma wybodaeth hynod ddifyr yn y gyfrol hon. Ydi, mae’r llyfr wedi’i rannu yn adrannau ond mae nifer fawr ohonynt yn gorgyffwrdd, fel elfennau o fywyd Dic ei hun. Dyma lyfr bwrdd coffi go iawn, a chyfrol sy’n wledd i’r glust a’r llygad.
- Sarah Down-Roberts @ www.gwales.com,