Jon Meirion Jones, yn ddiau, oedd y golygydd delfrydol i'r gyfrol hon, y ddiweddaraf yn y gyfres ddiddorol a gwerthfawr, Bro a Bywyd. Y mae’n frodor o’r un fro â gwrthrych y gyfrol, ac y mae ei adnabyddiaeth ddofn ohoni yn sail ac yn gefndir cadarn i’r portread a geir yma. Hyn a’i galluogodd i roi cofnod manwl o dan y lluniau teuluol, ac o dan y lluniau o’r plant a fu o dan ofal T. Llew yn ysgol Tre-groes ac Ysgol Gynradd Coed-y-bryn. At hynny, mae’r golygydd yn ffotograffydd profiadol ei hun, a bydd llawer o ddotio at res o luniau a dynnwyd ganddo dros y blynyddoedd – a fydd yn newydd i lawer darllenydd – o’r bardd a’r llenor ar wahanol adegau ac amryfal achlysuron yn ystod ei oes faith. Canlyniad y cyfan yw bod gennym yma bortread manwl, crwn a chynnes o T. Llew Jones.

Rhennir y gyfrol yn adrannau cyfleus sy’n dilyn ei yrfa o’i blentyndod hyd ei farw yn 93 mlwydd oed yn 2009. Ceir cip ar ddechrau’r daith yn ‘Teulu a Bro Mebyd’, a dilynir ei hynt i’r Aifft, Libya a’r Eidal yn yr adran ‘Cyfnod y Rhyfel’. Yn ogystal â’r adrannau ar ‘Yr Athro a’r Ysgolfeistr’, ‘Eisteddfodau a Chadeiriau’, ac ‘Awdur Llyfrau’, sy’n cynnwys rhestr gyflawn o lyfrau T. Llew i oedolion a phlant, a llun lliwgar a deniadol o rai ohonynt ar draws dau tudalen, ceir hefyd adran o dan y pennawd ‘Y Cricedwr a’r Gwyddbwyllwr’ sy’n sôn am agwedd arall a llai cyfarwydd ar ei amryfal ddiddordebau.

Nodwedd o’r gyfrol hon ar raddfa fwy, efallai, na’r rhan fwyaf o’r rhai a’i rhagflaenodd, yw’r cyfoeth o deyrngedau gan feirdd ac eraill a geir yma a thraw, y cyfan yn gyfraniad amhrisiadwy i’r portread crwn o T. Llew y cyfeiriwyd ato uchod. Ei anwyldeb, ei hiwmor a’i ddigrifwch heintus, a’i agosatrwydd yw’r nodweddion a ddaw i’r amlwg yng ngwaith y beirdd a welir rhwng y cloriau – Dic Jones, Idris Reynolds, Ceri Wyn Jones, Donald Evans, Vernon Jones, Myrddin ap Dafydd, Iolo Ceredig, ei fab, a’r golygydd ei hun. Addas iawn hefyd yw’r teyrngedau a geir gan ddwy o’i gyn-ddisgyblion, Beti Thomas ac Audrey Jones (Baker) yn yr adran ‘Yr Athro a’r Ysgolfeistr’.

Fel y gweddai mewn cyfrol sy’n coffáu un a oedd yn fardd ei hun, ceir yma sawl cân o waith T. Llew Jones yn serennu yma ac acw drwyddi. Yr oedd ei gynnyrch barddonol (heb sôn am y tro am ei gerddi i blant) yn un toreithiog, fel y tystia’r ddau gasgliad o’i waith, <i>Sŵn y Malu</i> a <i>Canu’n Iach</i>, ond yma – eto fel y gweddai – bodlonwyd yn bennaf ar ddewis cerddi ac iddynt berthynas â’i filltir sgwâr, neu o gofio enw’r gyfres, â’i fro. ‘Pont Dŵr Bach’, ‘Wrth Adfeilion Plas y Bronwydd’, ‘Traeth y Pigyn’, ‘Carreg Bica’ a llawer mwy, y cyfan yn nhraddodiad gorau’r bardd gwlad, gan brysuro i ychwanegu na ellir, wrth gwrs, gyfyngu T. Llew Jones i’r dosbarth hwnnw.

Gwledd o gyfrol yw hon, ac un deilwng iawn o un o gymwynaswyr mawr ei iaith a’i wlad.

- Tegwyn Jones @ www.gwales.com,

A comprehensive portrayal of the life and locality of the poet and author T. Llew Jones. Darlun cynhwysfawr o fywyd a bro'r bardd a'r awdur T. Llew Jones. Mae hanes bywyd Thomas Llewelyn Jones yn darllen fel nofel, ac mae iddi stori dda, fel ag a geir yn ei lyfrau ef ei hun. O fewn y stori hon y mae elfennau fel teulu, bro a chenedl a chymeriadau a sefyllfaoedd wedi eu plethu yn berthnasol i'w gilydd i greu diddordeb, edmygedd a difyrrwch.
Les mer
A comprehensive portrayal of the life and locality of the poet and author T. Llew Jones. Darlun cynhwysfawr o fywyd a bro'r bardd a'r awdur T. Llew Jones. Mae hanes bywyd Thomas Llewelyn Jones yn darllen fel nofel, ac mae iddi stori dda, fel ag a geir yn ei lyfrau ef ei hun. O fewn y stori hon y mae elfennau fel teulu, bro a chenedl a chymeriadau a sefyllfaoedd wedi eu plethu yn berthnasol i'w gilydd i greu diddordeb, edmygedd a...
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781906396336
Publisert
2010-11-25
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
G, 01
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
212

Redaktør