Profodd cyfres <i>Bro a Bywyd</i> yn boblogaidd dros y blynyddoedd gan ei bod, yn fy nhyb i, yn rhoi cyfle i rywun fusnesa. Oherwydd, mewn un ffordd o siarad, mae’n galluogi’r darllenydd i droi tudalennau llyfrau ffotograffau preifat y person sy’n destun y llyfr ac mae hynny’n bodloni’r <i>voyeur</i> sydd ym mhob un ohonom, er bod rhai yn dewis gwadu neu gwato hynny.
Yn achos Gwynfor Evans, efallai nad yw’r profiad hwnnw yn union yr un fath gan ei fod wedi byw cymaint o’i fywyd o flaen llygaid y genedl yr oedd yn pledio ei hachos mor daer. O’r cyfnod pan y’i hetholwyd yn llywydd Plaid Cymru yn 1945 hyd at ei farwolaeth yn 2005, ef oedd prif ladmerydd y cenedlaetholdeb blaengar a rhyddfrydig yr oedd ef ei hun wedi’i greu i raddau helaeth iawn.
Mae’r gyfrol yn adlewyrchu hynny yn dda trwy gofnodi’r Gwynfor cyhoeddus yn mynd o un ymgyrch i’r llall: Trawsfynydd, Capel Celyn, Senedd i Gymru, etholiadau lleol a chyffredinol (gan gynnwys isetholiad Caerfyrddin 1966), ac Ympryd y Sianel. Mae’r gyfrol hefyd yn cofnodi ei fywyd preifat cynnar yn y Barri a’i fywyd gyda’i wraig, Rhiannon, a’r teulu yn y Dalar Wen, Llangadog.
O gwmpas y ffotograffau hyn mae’r golygydd, Peter Hughes Griffiths, wedi ychwanegu stôr o wybodaeth ddefnyddiol ac wedi plethu ynghyd nifer o ddyfyniadau difyr o hunangofiant Gwynfor ei hun, <i>Bywyd Cymro</i>, a chofiant gorchestol Rhys Evans, <i>Rhag Pob Brad</i>. I’r sawl sydd eisiau cyflwyniad byr a hwylus i fywyd a gwaith Gwynfor Evans, dylai’r gyfrol hon fod yn ddefnyddiol iawn.
Mae i’r gyfrol rai gwendidau. Os rhywbeth, y mae gormod o luniau yn y gyfrol ac o’r herwydd mae nifer ohonynt yn cael eu hatgynhyrchu yn rhy fach i neb fedru adnabod yr wynebau niferus mewn llawer o’r portreadau grŵp. Nid oes modd chwaith i’r darllenydd chwilfrydig olrhain y ffotograffau i’w ffynhonnell – bydd hyn yn golled i ymchwilwyr yn y dyfodol wrth iddynt geisio dod o hyd i'r ffotograffau yma unwaith eto.
- Lyn Léwis Dafis @ www.gwales.com,