Cyfrol newydd yn astudio awen Iwan Llwyd

Newydd ei chyhoeddi mae cyfrol gan Gyhoeddiadau Barddas sy’n edrych ar waith un o feirdd pwysicaf Cymru, y diweddar Iwan Llwyd. Gyda chyfraniadau gan feirdd a beirniaid llenyddol amlwg mae Awen Iwan yn cynnig astudiaeth fanwl o waith y bardd fu farw yn 2010. Dyma’r gyfrol gyntaf i gynnig trafodaeth gynhwysfawr o’i waith.

“Y farn am Iwan Llwyd wedi’r trafod ydi mai y fo oedd bardd Cymraeg mwyaf ei genhedlaeth,” meddai Twm Morys yn ei gyflwyniad i’r gyfrol. “Ymhen blynyddoedd eto, pan fydd hyd yn oed Guto Dafydd wedi mynd i’w aped (a bwrw, fel sydd raid inni, y bydd darllen o hyd ar farddoniaeth Gymraeg), rwy’n credu y bydd y farn honno wedi newid, ac y gwelir mai Iwan Llwyd a ganodd orau o neb mewn unrhyw genhedlaeth am y ‘newyddfyd Cymraeg’.”

Caiff Iwan Llwyd ei gydnabod fel bardd a dorrodd gwys bwysig i farddoniaeth Gymraeg. Roedd yn brif lais ymysg cenhedlaeth newydd o feirdd oedd yn ceisio dadansoddi realaeth eu Cymru newydd hwy o fewn cyd-destun eu traddodiad barddol a dylanwadau cryfion o’r tu allan, yn enwedig o America.

Dychwelodd hefyd at yr hen arfer o fynd â’r farddoniaeth yn uniongyrchol at gynulleidfa, gan gymryd rhan mewn sawl taith farddol megis Fel Hêd y Frân, Cicio Ciwcymbars a Bol a Chyfri Banc. Y nod oedd mynd â cherddi at gyunlleidfa newydd mewn noswetihiau anffurfiol, cymdeithasol. Yn aml iawn, byddai’r teithiau hynny – a’i deithiau dramor – yn darparu ysbrydoliaeth ar gyfer cerddi eraill.

Meddai Myrddin ap Dafydd: “Mynd â barddoniaeth, a chelfyddydau eraill, at gynulleidfa ehangach oedd galwedigaeth Iwan, a dod â’r gynulleidfa ehangach at graidd, at grawc, at groesffyrdd ein barddoniaeth ni. Roedd o ddifri, hollol o ddifri ynglyn â hynny.”

Gwelai Iwan Llwyd swyddogaeth bardd cyfoes fel swyddogaeth y beirdd llys traddodiadol, yn cofnodi, yn dadansoddi ac yn procio, ac roedd ei waith yn goeth o gyfeiriadau at draddoddiad barddol Cymru, ei chwedlau a’i hanes. Mae ei waith yn drwm hefyd o gyfeiriadaeth at gerddoriaeth eingl-Americanaidd ei gyfnod, a chaneuon eiconau fel Bob Dylan a George Harrison. Fel cerddor ei hun, yn chwarae – ac yn cyfansoddi caneuon - i fand Steve Eaves a Geraint Lovgreen, roedd swyddogaeth y cerddor a’r llenor yn mynd law yn llaw. Dyma’r elfen sy’n cael sylw Osian Rhys Jones yn y gyfrol.

“Bwriad yr ysgrif hon yw edrych ar un elfen sy’n greiddiol i yrfa Iwan Llwyd fel bardd, sef y grym i greu’r byd trwy gân,” meddai. “Saif y grym hwnnw ar ei groesffordd greadigol, gan fod y
syniad yn treiddio nid yn unig i themâu a phynciau ei gerddi, ond hefyd i’w gredo sylfaenol yn nyletswydd, rôl a dylanwad y bardd ei hun. Trwy ganu’r byd o’i gwmpas (ac yntau wedi gweld cryn dipyn ar y byd), llwydda i greu, ail-greu, mapio ac adfywio llwybrau colledig, mannau cysegredig ac arwyr cenedlaethol.”

Yn ei hysgrif, mae Manon Wynn Davies yn edrych ar brentisiaeth Iwan Llwyd a’r hyn a’i siapiodd fel bardd. Yn fab i weinidog, bu ei athro Cymraeg yn Ysgol Friars, Bangor, Hywel Bebb yn ddylanwad mawr arno, ac yn sbardun i’w ddiddordeb mewn barddoniaeth, yn enwedig waith R. Williams Parry a T. H. Parry Willliams. Cyhoeddodd Iwan Llwyd ei waith am y tro cyntaf erioed yn y cyfnod hwn, yng nghylchgrawn yr ysgol.

Bu i Iwan ei hun gydnabod, “Fel mab i weinidog roedd geiriau yn rhan bwysig o ’mywyd ers yn gynnar iawn ... Er bod pregethau ac emynau yn medru bod yn ddiflas iawn i hogyn ifanc, mae’r gorau ohonyn nhw yn llawn o ddisgrifiadau a delweddau byw, o straeon neu droeon difyr, ac o farddoniaeth.”

Yn 1976 aeth i Brifysgol Aberystwyth lle gwnaeth enw iddo’i hun fel egin fardd.“Parhau hefyd wnaeth dylanwad T. H. Parry-Williams arno o’r cyfnod cynharaf drwy gydol ei yrfa farddol, a dilynodd ôl troed Parry-Williams yn llythrennol wrth iddo yntau gyhoeddi cerddi taith i Dde America a chael ei hudo gan swyn enwau llefydd dros y môr” meddai Manon Wynn Davies.

“Difyr yw dal rhyw fymryn ar ei gymeriad yn ystod y cyfnod hwnnw, sylwi ar hadau’r themâu a blannwyd yn gynnar ganddo, ac olrhain y llinyn sy’n plethu rhwng y cerddi wedi cychwyn taith y Gaucho hwn o fardd.”

Yn y nawdegau, gwahoddwyd Iwan Llwyd i ddod yn golofnydd rheolaidd yng nghylchgrawn Barddas, ac ysgrif am y colofnau craff a heriol hyn sydd gan Alan Llwyd. Meddai: “Gwyddwn am syniadau heriol, radicalaidd Iwan Llwyd, a dyna un rheswm pam y gofynnais iddo gyfrannu colofn reolaidd i’r cylchgrawn. Roedd ganddo olygwedd wahanol ar bethau. Roedd hefyd yn feddyliwr craff. Nid herio er mwyn herio a wnâi, ond herio er mwyn ennyn ymateb, procio i gael eraill i fyfyrio ar y materion a’r pynciau mwyaf arwyddocaol a mwyaf sylfaenol i ni fel Cymry. Roedd Iwan yn genedlaetholwr ac yn rhyngwladolwr ar yr un pryd, yn drwbadwwr ac yn delynor, yn draddodiadydd ac yn fodernydd.”

Mae ysgrif Gwyn Thomas yn bortread o fardd ac un yr oedd yn ei adnabod yn dda ac mae yntau hefyd yn gweld Iwan fel trwbadwr ei genhedlaeth. “Yr oedd ei ymarweddiad yn ymarweddiad bardd, bardd go-iawn, bardd a edrychai, o ran pryd a gwedd, rywbeth yn debyg i Lee van Cleef,” meddai Gwyn Thomas. “Fe edrychai fel trwbadwr: dyna inni’r het fawr, a dyna inni’r gitâr dros ei ysgwydd. Y mae’r amlinell ohono ar flaen y gyfrol Hanner Cant yn ei gyfleu i’r dim. Y mae ei alw’n drwbadˆ wr yn gywir-gymwys am fod cerddoriaeth a geiriau wedi bod yn mynd gyda’i gilydd mor aml yn ei alwedigaeth.”

Er y ddelwedd o’r trwbadwr crwydrol roedd Iwan Llwyd wedi ei greu iddo’i hun, does dim yn grwydrol na digyfeiriad am ei waith yn ôl ysgrif Llion Jones. Meddai: “Er gwaetha’r ddelwedd y bu Iwan Llwyd yn ei thaflunio ohono ef ei hun fel hobo blêr a digyfeiriad, y mae rhyw gymesuredd annisgwyl i’w ganfod yn ei yrfa lenyddol: y math hwnnw o gymesuredd sy’n perthyn i un â hyder yn ei genhadaeth, difrifoldeb yn ei amcan a sicrwydd yn ei gerddediad.”

Edrych ar bwysigwydd teithio ar ei waith y mae Guto Dafydd: “Roedd yn gweld teithio’n rhan greiddiol o fod yn fardd,” meddai. “Drwy waith Iwan, mae’r lôn yn hollbresennol: y daith ei hun, yn aml iawn, yn bwysicach na’i therfyn ... Pan fydd Cymry’r dyfodol yn darllen ei waith ... bydd yn teithio drwy amser i ymweld â hwythau. Rhydd iddynt ddealltwriaeth o’n cyfnod ni: seici’r Cymry yn y cyfnod hwn o fagu sofraniaeth wrth i natur cymdeithas a chyfathrebu newid yn sydyn. Caiff darllenwyr y dyfodol hefyd adnabod Iwan: teimlo rhywfaint o’i garisma a chymhlethdod ei gymeriad.”

Ystyried delweddau a chyfeiriadaeth yng ngwaith Iwan Llwyd wna cyfraniad y golygydd Twm Morys, gan drafod taith i America a esgorodd ar gerddi wedi eu dylawadu’n drwm gan ddelweddau Americanaidd a brodorol y wlad. Meddai: “Roedd Iwan y bardd yn gymysg ei dras. Ar un ochr roedd yn perthyn i draddodiad barddol ei wlad ei hun, a daeth i gredu o ddifri ei bod yn ddyletswydd ar fardd o Gymro deithio’i wlad gan ysbrydoli a phryfocio a chadw’r chwedlau’n fyw.

“Ar yr ochr arall wedyn, fel pob bardd wedi’r Ail Ryfel Byd y tu allan i sir Feirionnydd, roedd Iwan yn perthyn i’r diwylliant Eingl-Americanaidd. Drwy’r radio a’r jiwc-bocs y daeth yr haint yn benna, mae’n debyg: y Beatles i ddechrau, ac wedyn Bob Dylan a’r Rolling Stones, a Leonard Cohen a Bruce Springsteen a Tom Waits a llawer o rai eraill rhyngddyn nhw.”

Ers cyfarfod yn fyfyrwyr yn Aberystwyth, bu’r artist Iwan Bala ac Iwan Llwyd yn gyfeillion agos, a bu’r artist yn gyfrifol am arlunwaith trawiadol nifer o’i gyfrolau. Gwel Iwan Bala mai Iwan Llwyd oedd yn gyfrifol am ddod â byd y bardd a byd yr artist at ei gilydd.

“Hyd at chwarter olaf y ganrif ddiwethaf, roedd beirdd ac artistiaid Cymru yn byw i raddau helaeth mewn bydoedd ar wahân. Mae hyn wedi newid erbyn heddiw, ac roedd Iwan Llwyd yn un o’r ffigyrau canolog yn y newidiadau hyn,” meddai. “Pan ddois i adnabod Iwan Llwyd, cefais y wefr o wybod fymod yng nghwmni bardd, ac y medrwn gyfathrebu ag ef, a rhannu syniadau ar draws y ddwy ddisgyblaeth greadigol, y farddonol a’r weledol. Roeddem o’r un genhedlaeth, gyda’r un daliadau, a gyda’r dyhead i weld Cymru fel lle oedd ar flaen y gad yn ei chelfyddydau, yn rhan o’r byd ôl-fodern ac ôl-drefedigaethol.”

Mae’r gyfrol gyffrous hon, sydd hefyd yn cynnwys rhai lluniau gan y ffotograffydd Marian Delyth, yn dathlu cyfraniad enfawr Iwan Llwyd fel bardd, ac yn bwrw golwg drwyadl ar ei gerddi.
- Cyhoeddwr: Cyhoeddiadau Barddas,
Yn ei gyflwyniad i’r gyfrol hon ceir gan Twm Morys ddatganiad ysgubol: ‘Iwan Llwyd a ganodd orau o neb mewn unrhyw genhedlaeth am “y newyddfyd Cymraeg”.’ Ysgubol hwyrach, ond gwir bob gair.
Teimlad rhyfedd yw darllen am Iwan Llwyd fel un a fu. Mae’r Llwyd o hyd yn perthyn mwy i’r dyfodol nag i’r gorffennol gan mai prin gyffwrdd â’i athrylith a wnaed hyd yma.
Fel y dywed Twm eto, mae bron pawb o’r naw cyfrannwr yn ffrindiau yn ogystal â bod yn edmygwyr o Iwan a’i waith. Anochel felly, meddai, yw ein bod yn cael ‘rhyw gip cil-llygad ar rith y dyn a’i het gowboi bob hyn a hyn’. Mae’r bardd a’r dyn yn ddieithriad, bron, yn ddau berson gwahanol. Yn Iwan, roedden nhw’n un. Ni chafwyd erioed well cwmnïwr. Y cyfan fyddai ei angen i gael Iwan i’w uchel hwyl fyddai crybwyll enw Bob Dylan. A bant â ni!
Gan Manon Wynn Davies cawn wybod am y catalydd, sef y gynghanedd, a drodd Iwan Lloyd Williams yn raddol yn Iwan Llwyd. Mae Gwyn Thomas, gyda’i ddawn arferol i bortreadu rhyfeddod diniweidrwydd, yn adrodd am ei blant yn eilunaddoli Iwan. ‘Llwyd oedd y prif Hogyn Mawr, arwrol y bydden nhw’n sôn amdano,’ meddai.
Gallaf uniaethu’n llwyr â geiriau Guto Dafydd, sef bod ei gwmni’n fwynhad pur, ‘yn gwmni diddan, yn roc-a-rôl, yn ysbrydolwr ac yn anogwr’. Ceir gan Twm Morys eto fewnwelediad i gyfeiriadaeth, delweddau a mwyseiriau yng ngwaith Iwan. Dim rhyfedd iddo gael ei swyno gan eiriau’r Dylan arall hwnnw.
Yn ‘Atgofion Ynys Gwales’ cawn ddadansoddiad hynod dreiddgar gan Iwan Bala o’r modd y bu Iwan yn gatalydd a unodd fydoedd beirdd ac artistiaid. Aiff Myrddin ap Dafydd â ni ar drywydd annisgwyl ond dadlennol, sef lle adar yng ngwaith Iwan. Yr un mor dreiddiol yw ysgrif Osian Rhys Jones, sy’n dadansoddi’r elfen greiddiol i yrfa Iwan, sef ‘y grym i greu’r byd trwy gân’.
Mae Llion Jones yn gweld yn Iwan rywbeth amgenach na’r taflun ohono’i hun fel hobo blêr a digyfeiriad. Gwêl ryw gymesuredd annisgwyl yn ei yrfa lenyddol. Yn yr ysgrif olaf cawn gan Alan Llwyd drafodaeth ar Iwan fel colofnydd rheolaidd i Barddas o ganol y saithdegau ymlaen. Cyfeiria at gyferbyniaeth ei gymeriad, yn genedlaetholwr ac yn rhyngwladolwr, yn drwbadŵr ac yn delynor, yn draddodiadwr ac yn fodernydd.
Rhwng popeth, dyma gyfrol sy’n cadarnhau llawer a wyddwn am Iwan eisoes. Ond dysgais lawer mwy. Mae’r naw ysgrif a geir yma yn gerrig milltir pwysig ar droeon ei daith. Mae yna ffordd bell eto i fynd.
- Lyn Ebenezer @ www.gwales.com,