A collection of poetry for children, illustrated by Iola Edwards. Cyfrol yn cynnwys 19 o gerddi i blant ac 19 o luniau gan Iola Edwards. Llond drôr o ddeinosoriaid a llond llyfr o anifeiliaid a chreaduriaid rhyfedd o bob math - cathod a morfilod a mil o angenfilod, a hyd yn oed ambell frawbŵn.
Les mer
A collection of poetry for children, illustrated by Iola Edwards. Cyfrol yn cynnwys 19 o gerddi i blant ac 19 o luniau gan Iola Edwards. Llond drôr o ddeinosoriaid a llond llyfr o anifeiliaid a chreaduriaid rhyfedd o bob math - cathod a morfilod a mil o angenfilod, a hyd yn oed ambell frawbŵn.
Les mer
Does dim yn well na chael llyfr o farddoniaeth wreiddiol i blentyn a dyna’n union a geir yn y llyfr hwn. Mae yma bedair ar bymtheg o gerddi ar bob math o destunau, gan gynnwys ‘Gwyliau’r Haf’, ‘Anifail Anwes ein Teulu ni’, ‘Enwau’, ‘Medrau Meddwl’ ac ‘Yn y Den’. Maent yn gerddi doniol iawn gydag ambell dro yn y gynffon, megis pennill olaf ‘Gwyliau’r Haf’:
Hwre! Dim ond diwrnod eto,
Wedyn caf fynd nôl i weithio,
a gwneud ‘run syms dro ar ôl tro –
achos FI yw’r prifathro.
Mae sŵn geiriau yn bwysig i blant ifanc, ac mae'r gyfrol hon yn llwyddo am fod rhai cerddi wedi eu hysgrifennu yn y mesur rhydd ac eraill mewn mydr ac odl – yr olaf a blesiodd trigolion ein tŷ ni. Beth am y pennill hwn o'r gerdd ‘Enwau’, sy'n chwarae ar enwau ac ystyron llefydd yng Nghymru?:
Ydi pysgod Aberhosan
Yn gwau sanau dan y dŵr?
A phwy yw mab y Dani hwnnw
O Landdaniel, dwi’m yn siŵr.
Dyma ffordd ddigon difyr, mae’n rhaid dweud, i ddysgu rhywfaint am ddaearyddiaeth Cymru! I gyd-fynd â difyrrwch y cerddi ceir lluniau trawiadol iawn gan Iola Edwards ac mae gwaith dylunio Dafydd Llwyd hefyd yn gelfydd. Dyma fargen, heb os, am bum punt.
Les mer
Produktdetaljer
ISBN
9781906396350
Publisert
2011-03-01
Utgiver
Vendor
Cyhoeddiadau Barddas
Høyde
1 mm
Bredde
1 mm
Aldersnivå
E, 12
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
48
Forfatter
Illustratør