Mae dechrau ysgol uwchradd yn her i unrhyw blentyn, ond trwy lygaid Miri ceir mewnwelediad i’r sialensau ychwanegol gall wynebu plentyn niwrowahanol. Yn ystod gwersi, caiff nodweddion awtistaidd fel stimio a rhannu gwybodaeth am ei diddordeb arbennig eu dehongli fel camymddygiad gan rai o’i athrawon, sy’n dewis anfon Miri o’r ystafell ddosbarth yn hytrach na chynnig y gefnogaeth sydd ei hangen arni fel disgybl gydag awtistiaeth. Diolch byth, mae teulu cefnogol Miri yn wrthbwynt cadarnhaol i anwybodaeth ei hathrawon, yn enwedig ei mam, sydd hefyd yn awtistaidd ac yn eiriolwr brwd dros ei merch.

Newida profiad ysgol Miri am y gorau ar ôl iddi gwrdd â Carys (neu Onyx, fel mae’n well ganddi cael ei galw). Fel Miri, teimla Onyx yn wahanol i’w chyd-ddisgyblion, a hynny’n eu troi nhw’n destun sbort i hen “ffrindiau” Miri. Tyfa cyfeillgarwch agos rhwng y ddwy, ac ym mhen dim, dyma Miri wedi gwneud ffrind gorau sy’n ei charu hi am bwy ydy hi, a Miri yn dangos yr un parodrwydd i dderbyn a charu hynodrwydd Onyx. Yn anffodus, nid pawb sydd â meddwl mor agored. Cyhudda tad Onyx Miri o fod yn ddylanwad drwg, ac mae’r cymryd mesurau eithafol i gadw’r ddwy ar wahân. Yn fwy na hynny, gorfodwyd Onyx i fynychu rhyw fath o therapi trosi am nad yw'n ffitio delfryd ei thad o’r “ferch berffaith”, cipolwg sobreiddiol o’r gormes a’r camdriniaeth mae ieuenctid LHDT+ yn parhau i’w profi.

Yn dilyn gwers Hanes, datblyga Miri obsesiwn gyda gwallgofdai Fictoraidd, yn enwedig ar ôl iddi ddysgu y byddai pobl gydag awtistiaeth yn cael eu hanfon yno. Mae ei chwilfrydedd yn arwain at antur i hen wallgofdy lleol gydag Onyx. Mae’r gwallgofdy’n gefnlun iasol gwych i’w helynt yn nhywyllwch y nos, yn enwedig ar noson Calan Gaeaf, ac mae hefyd yn ein hatgoffa o’r anghyfiawnder oedd yn wynebu’r rheini gyda salwch meddwl neu niwrowahaniaeth. Tra bod Miri ac Onyx yn byw mewn cyfnod a chymdeithas lawer fyw goddefgar o wahaniaethau unigol, mae’r sylwadau rhagfarnllyd a dderbynia’r ddwy yn yr ysgol am fod yn nhw eu hunain yn dangos bod yr un anwybodaeth Fictoraidd dal yn holl bresennol heddiw.

Trwy adroddiad onest ac agored Miri, rhoddir llais i’r bobl ifanc sydd ar y cyrion, y rhai sy’n teimlo nad ydynt yn ffitio i mewn gyda’i chyfoedion. Ond gyda chefnogaeth ei ffrind gorau a’i theulu, dysga Miri fod dim byd o’i le â pheidio bod fel pawb arall; yn wir, daw hi ac Onyx nid yn unig i dderbyn eu hynodrwydd, ond i’w ddathlu.

- Alice Jewell @ www.gwales.com,

Exploring an abandoned Victorian asylum may seem like a weird way to develop a friendship, but Mo has always found that she does things a bit differently. Finding Onyx makes high school bearable, but can they ever find a way to be themselves when the world seems against them? Ffordd ryfedd o ddatblygu cyfeillgarwch, efallai, yw archwilio adfeilion hen seilam Fictoraidd, ond mae Mo bob amser yn gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol. Mae cyfeillgarwch Mo ac Onyx yn gymorth i ddygymod â bywyd yn yr ysgol uwchradd, ond a fedran nhw ganfod ffordd i fod yn nhw eu hunain pan ymddengys fod y byd yn eu herbyn?
Les mer

Produktdetaljer

ISBN
9781915444875
Publisert
2024-07-04
Utgiver
Vendor
Firefly Press Ltd
Høyde
200 mm
Bredde
150 mm
Dybde
10 mm
Aldersnivå
J, 02
Språk
Product language
Walisisk
Format
Product format
Heftet
Antall sider
296

Forfatter
Oversetter