Un o uchafbwyntiau’r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr oedd teyrnged Gruffudd Antur i Gerallt Lloyd Owen. Pluen arall yn ei het yw’r gyfrol hon a olygwyd ganddo – cyfrol sy’n olrhain y traddodiad barddol ym mhum plwy Penllyn.
Bu iddo gasglu nifer o erthyglau a darnau barddoniaeth rhwng dau glawr. Fe gyfrannodd hefyd erthygl sylweddol ei hun am hynt a helynt beirdd yr uchelwyr yn yr ardal, gan olrhain y traddodiad yn ôl i’r chwedl am Lywarch Hen yn ceisio lloches yn Llanfor.
Beryl H. Griffiths sydd wedi bod wrthi'n crynhoi hanes y traddodiad barddol mwy gwerinol yn yr ardal yn y cyfnod rhwng diflaniad beirdd yr uchelwyr a’r ugeinfed ganrif, trwy drafod englynion a gwatwargerddi Cwm Cynllwyd.
Ni fyddai unrhyw drafodaeth ar draddodiad llenyddol Penllyn yn gyflawn heb gyfeiriad at O. M. Edwards, a Haf Llewelyn gafodd y gwaith o drafod ei gasgliad ef o hwiangerddi. Mae’r gyfrol yn cloi gydag ysgrif dreiddgar Hywel Griffiths ar ymateb y beirdd i foddi Tryweryn.
Ysgrifau canolog y gyfrol yw’r rhai sy’n ymwneud â’r traddodiad barddol yn yr ugeinfed ganrif. Mae’n gwbl addas mai’r ysgrif agoriadol yw’r un gan Elfyn Pritchard sy’n sôn am fagwraeth Gerallt Lloyd Owen a’r dylanwadau arno. Mae marwolaeth ddiweddar y cyn-feuryn yn bwrw ei chysgod tros y gyfrol i gyd.
Wrth drafod blynyddoedd ei fagwraeth yn y Sarnau, cyfeirir at gamp Gerallt yn cipio cadair yr Urdd am y trydydd tro yn 1969. Gwneir y sylw craff hwn. ‘Yn wir,’ meddir, ‘bu’n ffigwr cenedlaethol weddill ei oes ... ac ar adegau roedd y gofynion arno’n drwm a’r disgwyliadau’n drymach, yn rhy drwm efallai.’
Meuryn y Talwrn radio oedd Gerallt i lawer, wrth gwrs. Llwydda Elwyn Edwards i olrhain gwreiddiau’r gyfres honno i’r ymrysonau a gynhelid ym Mhenllyn, yn arbennig yn y cyfnod pan oedd Alan Llwyd yn byw yn yr ardal.
Gan Alan Llwyd ei hun fe gawn ysgrif ar brifeirdd Penllyn. Dywed fod tri math ohonynt sef y prifeirdd brodorol, y prifeirdd hirdymhorol a’r prifeirdd byrdymhorol (R. Williams Parry yn un ohonynt).
Bwriadaf aros eiliad gydag un o’r prifeirdd byrdymhorol hyn. Os rhywbeth, mae’n bwrw ei gysgod tros y gyfrol yn fwy na Thryweryn a Gerallt Lloyd Owen hyd yn oed. Euros Bowen yw’r bardd hwn. Heblaw am y sylw a roddir iddo gan Alan Llwyd fe drafodir ei waith hefyd mewn ysgrifau gan Dafydd Elis-Thomas a Geraint Bowen. Mae yna gysylltiad hefyd rhwng ei gerdd 'Arenig' sydd wedi ei chynnwys yn y llyfr a’r llun ar y clawr.
Dywed Alan Llwyd mai Gaeaf 1947 ym Mhenllyn wnaeth fardd o Euros Bowen. Yr ardal hon oedd yr ysbrydoliaeth i lawer o’i gerddi ac fe enillodd goron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith tra oedd yn byw yn y cylch. (Gyda llaw, byddai mân reolau’r Eisteddfod Genedlaethol heddiw yn golygu na châi Euros y goron am y cerddi hyn a hynny am eu bod mewn cynghanedd gyflawn.) Byddai ein llenyddiaeth ar ei cholled yn arw pe bai’r rheol hon mewn bodolaeth yn 1948 ac 1950.
Fe’m gwefreiddiwyd gan yr amrywiol drafodaethau ar Euros Bowen. Ers ei farwolaeth ni fu cymaint â hynny o sôn amdano ond fe lwyddwyd yn y gyfrol hon i adfer ei le a hynny'n anrhydeddus yn ein traddodiad llenyddol. Tybed, ar ôl iddo orffen ei gofiant i Gwenallt, a ellir temtio Alan Llwyd i fynd i’r afael ag Euros Bowen? Mae’n amlwg fod ganddo'r wybodaeth a’r weledigaeth i wneud hynny.
Mae un ysgrif arall yn y gyfrol sydd yn dyst i wytnwch y traddodiad barddol ym Mhenllyn. Trafodir yn honno gyfraniad ‘Beirdd y Tyrpeg’ – Ifan Rowlands, R. T. Rowlands ac Ithel Rowlands – i’n bywyd llenyddol, tri pherthynas y mae eu gwaith yr un mor arwyddocaol â chyfraniad Teulu’r Cilie.
O’r llun ar y clawr blaen i’r dyfyniad o’r ddrama <i>Blodeuwedd</i> ar y cefn, mae hon yn gyfrol eithriadol werthfawr a mawr yw ein dyled i’r golygydd am ei chasglu ynghyd.
- Dafydd Morgan Lewis @ www.gwales.com,